Fel y dywedodd Geraint, cipddarllen sy'n ramadegol gywir (nid cip ddarllen). Mae'r un peth yn wir am llithrddarllen wrth gwrs, ond ei fod, fel y dywedwyd gan sawl un eisoes, yn air rhyfedd, anodd ei ddweud ... Ydy o'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion? Gallaf holi rhai athrawon i weld. Ac onid ydy darllen manwl yn well na darllen yn fanwl?
Does dim raid i mi gael atebion ar frys, felly os bydd gan unrhyw un fwy o wybodaeth/awgrymiadau maes o law, byddwn yn falch o glywed gennych. Diolch yn fawr.
Gwenda
On Wed, 12 Jan 2011 16:54:05 -0000 , David Bullock <[log in to unmask]> wrote:
>Cwestiwn sy gen i yn hytrach na gwrthwynebiad...
>
>Mae'r ffynhonnell y cyfeiriodd Meleri ati - sef y Cwricwlwm Cenedlaethol - yn un gymharol awdurdodol.
>
>Mae dogfennau'r cwricwlwm wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd gan bobl sydd wrthi'n gweithio'n gyson mewn ysgolion a byd addysg. Os wy'n cofio'n iawn, Yr Athro Gwyn Thomas gadeiriodd y pwyllgor gwreiddiol, ac mae statws dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (yn y Gymraeg fel pwnc, o leiaf) yn weddol gadarn. Ac maen nhw'n ddogfennau sy'n cylchredeg yn eang ymhlith cynulleidfa Gymraeg eitha cryf, sef athrawon Cymraeg.
>
>A'r cwestiwn felly yw hyn: oes yna reswm digon da i wrthod cynsail fel hyn?
>
>
>-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwenda Lloyd Wallace
>Sent: 12 Ionawr 2011 16:22
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: ATB/RE: skim reading a scan reading
>
>>>Yn cytuno'n llwyr a chi Geraint. Ond gan fod cipddarllen (y Cwricwlwm Cenedlaethol) a brasddarllen (Geiriadur yr Academi) ill dau yn golygu skim reading, a'r awgrym gan Carolyn (diolch!) o brysddarllen am scan reading mor debyg i brasddarllen, dw i am ddefnyddio cipddarllen am skim reading (dw i bron iawn a drysu yma ... ). I grynhoi, er fy mwyn fy hun yn gymaint a phawb arall!:
>>
>>skim reading = cipddarllen; scan reading = brysddarllen; detailed reading = darllen manwl
>>
>>Unrhyw wrthwynebiad?
>>>
>>>Gwenda
>>>
>>>Wed, 12 Jan 2011 15:45:04 -0000 , Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>>>>hm - i mi mae cipddarllen (un gair, siawns) yn olreit ond dwi ddim yn hoffi
>>>>'llithrddarllen' nac yn meddwl ei fod yn debyg o ennill ei blwyf. Mae'n
>>>>anodd ei ddweud, yn un peth!
>>>>
>>>>Mae brasddarllen yn air llawer gwell.
>>>>
>>>>Mae darllen manwl yn iawn.
>>>>
>>>>Geraint
>>>>
>>>>----- Original Message -----
>>>>From: "Meleri H. Hughes" <[log in to unmask]>
>>>>To: <[log in to unmask]>
>>>>Sent: Wednesday, January 12, 2011 3:21 PM
>>>>Subject: ATB/RE: skim reading a scan reading
>>>>
>>>>
>>>>> Dyma'r termau a ddefnyddir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i ysgolion:
>>>>> Skim - cip ddarllen
>>>>> Scan - llithr ddarllen
>>>>> Detailed reading - darllen yn fanwl
>>>>>
>>>>> Meleri
>>>>>
>>>>>
>>>>>
>>>>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwenda
>>>>> Lloyd Wallace
>>>>> Sent: 12 January 2011 15:15
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>> Subject: skim reading a scan reading
>>>>>
>>>>>>Dw i'n cyfieithu disgrifiadau ar ffyrdd gwahanol o ddarllen, sef 'skim
>>>>>>reading', 'scan reading' a 'detailed reading'. Mae Geiriadur yr Academi yn
>>>>>>rhoi 'brasddarllen' am skim reading, a 'darllen manwl' fyddwn i'n ei
>>>>>>ddefnyddio am detailed reading. A fyddai 'sganddarllen' yn iawn am 'scan
>>>>>>reading' neu a ddylwn i ddefnyddio 'bwrw golwg'?
>>>>>>
>>>>>>Diolch yn fawr.
>>>>>>Gwenda
>>>>>>--
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>Gwenda Lloyd Wallace
>>>>>>Cyfieithydd/Translator
>>>>>>Troed-y-rhiw
>>>>>>Cefn-llwyd
>>>>>>Aberystwyth
>>>>>>Ceredigion
>>>>>>Cymru/Wales
>>>>>>SY23 3HX
>>>>>>
>>>>>>Ffon/Tel: 01970 880817
>>>>> --
>>>>>
>>>>>
>>>>> Gwenda Lloyd Wallace
>>>>> Cyfieithydd/Translator
>>>>> Troed-y-rhiw
>>>>> Cefn-llwyd
>>>>> Aberystwyth
>>>>> Ceredigion
>>>>> Cymru/Wales
>>>>> SY23 3HX
>>>>>
>>>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>>>>
>>>>>
>>>>> -------------------------------------------------------------
>>>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar
>>>>> gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os
>>>>> yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu
>>>>> na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu �'r anfonwr ar unwaith.
>>>>> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud � busnes swyddogol y corff sy'n anfon
>>>>> yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
>>>>> -------------------------------------------------------------
>>>>> This email and any attachments are confidential and intended for the named
>>>>> recipient only. The content may contain privileged information. If it has
>>>>> reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the
>>>>> content to anyone but should contact the sender at once.
>>>>> Any content that is not pertinent to the official business of the
>>>>> organisation is personal to the author.
>>>>> -------------------------------------------------------------
>>>>> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei
>>>>> bod yn hollol angenrheidiol.
>>>>> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is
>>>>> absolutely necessary.
>>>>>
>>>>>
>>>
>>>
>
>--
>
>
>Gwenda Lloyd Wallace
>Cyfieithydd/Translator
>Troed-y-rhiw
>Cefn-llwyd
>Aberystwyth
>Ceredigion
>Cymru/Wales
>SY23 3HX
>
>Ffon/Tel: 01970 880817
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|