Mae pob iaith yn newid yn raddol dros gyfnod o amser, a’r gamp ydi cael
y cydbwysedd rhwng cynnal safonau a pheidio bod yn haearnaidd a hen
ffasiwn. Mae hyn yn broblem i bob iaith ond yn arbennig felly i’r
Gymraeg gan fod y Saesneg mor ddylanwadol a hefyd oherwydd bod y
mwyafrif helaeth o Gymry Cymraeg yn byw talp o’u bywydau trwy gyfrwng y
Saesneg ac felly nad yw eu gafael ar y Gymraeg mor gynhwysfawr – o ran
cyweiriau, geirfa, cystrawen etc. Mae hyn yn cynnwys cyfieithwyr hefyd!
Oherwydd hyn mae’n fwy o broblem canfod beth sy’n ‘gywir’ ac yn
‘dderbyniol’. Ac mae’n bosib bod mwy nag un ffurf yn dderbyniol, er mai
dim ond un sy’n hollol ‘gywir’ yn ôl safonau gramadegau hŷn fel JMJ.
Byddwn i’n dweud bod PWT yn ‘awdurdodol’ ond mae hefyd yn hyblyg ar
nifer o faterion. Os ydw i’n cofio’n iawn, a does gen i ddim copi yn y
gwaith, mae’r rhagarweiniad i ramadeg PWT yn rhoi cefndir cyffredinol
gwerthfawr iawn i’r cysyniad o’r hyn sy’n ‘dderbyniol’ mewn iaith.
Geraint Lovgreen wrote:
>
> Wel ie, ond os nad ydi PWT yn awdurdod pwy sydd? A be di'r pwynt i Wasg
> y Brifysgol gyhoeddi ei lyfr os nad ydio i fod yn Ramadeg awdurdodol?
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Carolyn <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, January 18, 2011 10:03 AM
> *Subject:* ATB: 73 years
>
> Ond yw gwir yw, Geraint, bod gwahanol bethau'n corddi gwahanol bobl
> a dyna pam mae angen rheolau - dyna pam wnaeth pobl lunio gramadegau
> ffurfiol yn y lle cyntaf. Rhwydd hynt i bawb ddilyn eu trywydd eu
> hunain ar lafar ac mewn cyweiriau anffurfiol - ond mae cywair
> ffurfiol pob iaith yn dibynnu ar reolau safonol.
>
> Carolyn
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|