Diolch, bawb.
Dafydd - Dyma'r frawddeg: "Neither we nor any third parties provide
any warranty or guarantee as to the accuracy, timeliness,
performance, completeness or suitability of the information and
materials found or offered on this website for any particular purpose"
O ran yr ystyr, dwi'n meddwl bod "neb arall" yn iawn - Hynny yw -
"does neb yn cymryd cyfrifoldeb os yw'r wybodaeth yn anghywir".
Diolch
Siān
On 6 Rhag 2010, at 12:37, Dafydd Tomos wrote:
>> Telerau ac amodau defnyddio gwefan. Angen iddynt fod yn ddealladwy i
>> bobl gyffredin.
>>
>> "Neither we nor any third parties provide any warranty ..."
>>
>> Ydi hi'n iawn dweud "Nid ydym ni na neb arall ...." - neu a oes rhaid
>> s?n am "drydydd parti"?
>
> Mi fyddai 'neb arall' yn gallu cyfeirio at unrhyw un y byd. Dwi'n amau
> fod trydydd parti yn cyfeirio at unrhyw gyflenwyr sydd ynghlwm a'r
> wefan.
>
> Ydi'r 'gwarant' yn cyfeirio at rhywbeth penodol fel argaeledd,
> hygyrchedd neu cynnwys y wefan?
>
> Er enghraifft fe fydd gwefan gan gwmni neu corff yn dibynnu ar
> feddalwedd penodol neu gwmni arall a ddatblygodd wefan. Mi fydd y
> gwefan yn dibynnu ar weinydd wedi ei ddarparu gan gwmni arall. Efallai
> fod peth o gynnwys y wefan yn cael ei fwydo gan wefan arall, yn
> cynnwys hysbysebion neu adran newyddion. Mi fyddai rheina i gyd yn
> ddarparwyr 'trydydd parti'.
|