Efallai fod yr erthygl wreiddiol braidd yn gamarweiniol. Nid yw
cywiriadau i gyfieithu peirianyddol Google yn dychwelyd yn syth i'r
canlyniadau chwilio, ac nid yw deunydd newydd yn mynd yn syth i gof
cyfieithu, ond yn hytrach i gorpws anferth sy'n sail i'r cyfieithu,
gan ddefnyddio dulliau ystadegol i greu cyfeiithiad peirianyddol.
Er hynny, mae'n deg rhoi rhybudd hefyd i gyfieithwyr sy'n defnyddio
Google Translate rhag iddynt ollwng deunydd cyfrinachol o'u llaw (drwy
ddefnyddio Google i'w frasgyfieithu) ac i hynny godi rywdro fel cynnig
mewn cyfieithiad periainyddol.
Ar y llaw arall rydyn ni'n defnyddio cyfieithu peirianyddol Google yn
ein rhaglen arddangos newydd yn y project CAT Cymru i gynnig
brasgyfieithiad o fewn rhaglen cof cyfieithu lle nad oes cynnig arall
yn y cof.
Bydd David Chan yn rhoi papur ar hyn yn ein cynhadledd fis Ionawr (gw.
CATcymru.org) a bydd co bach am ddim ar gael i bawb sy'n mynychu'r
gynhadledd yn cynnwys rhaglen cof cyfieithu, cof parod wedi'i lwytho
iddo, geiriadur termau integredig a gwirydd sillafu integredig o fewn
y rhaglen (sori, hysbyseb arall i'ch denu chi i'r gynhadledd yn fan
'na!)
Delyth
Quoting Ann Corkett <[log in to unmask]>:
> <A byddai ychwanegu cofau holl gyfieithwyr y wlad yn gryn gaffaeliad
>
>
>
> Byddai'n dda gwneud hynny *o gael* staff llawn amser wrthi'n gwirio ansawdd
> a safoni termau! Byddaf innau'n dal i gaboli fy nghof cyfieithu yng
> ngoleuni profiad.
>
>
>
> Hefyd byddai'n rhaid *peidio* a newid cyfeiriad unrhyw gof.
>
>
>
> Ann
>
> _____
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 22 December 2010 10:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol
>
>
>
> O fewn ei gyfyngiadau anochel, gall cyfieithu peiriant fod yn offeryn
> defnyddiol. Ar lefel brawddegau unigol - a hynny drwy ddamwain a hap yn aml
> - gall y broses roi cynnig defnyddiol - ond cynnig a all fod yn eithaf
> peryglus hefyd. Nid yw Google Translate yn cynnig rhyw hud a lledrith fydd
> yn datrys ein problemau cyfathrebu i gyd: caf deimlad pendant fod rhywrai
> sydd heb ddeall hynny.
>
>
>
> Bydd fe fydd yn rhoi syniad go lew i rai sy'n deall digon o gefndir y
> ddogfen a'i chyd-destun. Ond. fel ag y mae ar hyn o bryd, ni fuaswn i'n
> fodlon dibynnu ar y broses. Cof gennyf gyfaill o'r Dwyrain Canol a redodd
> wynebddalen Al-Jazeera drwy feddalwedd gyfieithu Arabeg-Saesneg, a chael
> hanes dau fyfyriwr oedd yn creu helbul yn Affganistan! (Meddyliwch amdano
> ...) Pe bawn i'n mynd at gyfieithydd masnachol am drosiad o ddogfen mewn
> iaith nad oeddwn yn ei medru, a chlywed ei b/fod wedi dibynnu ar Google
> Translate, byddwn i'n ystyried hyn yn dor-contract ac yn troi at gyfieithydd
> dibynadwy.
>
>
>
> Wedi dweud hynny, mae'r syniad o gof cyfieithu i bawb yn syniad eithaf
> apelgar. Mewn gwirionedd, mae arnom ni angen rhyw fath o Garreg Rosetta
> electronig. Un cam hanfodol fyddai bwydo holl ddeddfwriaeth y Cynulliad i
> mewn, gyda Chylchlythyrau, Canllawiau, Cyfarwyddiadau, Codau, a dogfennau
> cyffelyb i ddilyn. A byddai ychwanegu cofau holl gyfieithwyr y wlad yn gryn
> gaffaeliad.
>
>
>
> Yn iach,
>
>
>
>
>
>
>
> Tim
>
>
>
>
>
> Tim Saunders
>
> Cyfieithydd Translator
>
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough
> Council
>
>
>
>
>
>
>
> _____
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
> Sent: 22 December 2010 10:25
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol
>
> Mae Google Translate yn cynnig y canlynol ( sy'n eithaf agos ):
>
> "Amen and amen. In other words, engineers have managed to mechanization
> botched translation."
>
> Rwy wedi bod yn eithaf negyddol tuag at y syniad yn y gorffennol ond mae yn
> gwella ac mae cynnig presennol Google yn aml yn eithaf da gyda geiriau ac
> ymadroddion byr ( ac mae'n rhoi'r acenion mewn ). Dyw e ddim yn cyfieithu un
> gair ar y tro fel roedd o'r blaen yn mynd am ddarnau hirach. Mewn ffordd
> mae'n rhyw fath o gof cyfieithu i bawb. Byddai'n dda iawn gweld rhai o'r
> rhestrau termau yn cael eu bwydo mewn.
>
>
>
> Rwy wedi arbrofi ychydig gyda chyfieithu tudalennau newyddion ar y we mewn
> ieithoedd gwahanol ac fel arfer mae'n ddigon da i ddeall beth sy'n digwydd.
> Does dim rhai i gyfieithiad bod yn berffaith i fod yn ddefnyddiol mewn
> llawer o achosion. I rywun sy'n dysgu iaith er enghraifft gallai fod o
> gymorth ac yn llawer llai diflas na throi at y geiriadur cant o weithiau er
> mwyn darllen darn bach.
>
>
>
> Does dim angen peiriant i greu cyfieithiad carbwl :)
>
>
>
>
>
> 2010/12/22 Saunders, Tim <[log in to unmask]>
>
> Amen ac amen. Mewn geiriau eraill, mae peirianwyr wedi llwyddo i fecaneiddio
> cyfieithu carbwl.
>
>
>
> Yn iach,
>
>
>
>
>
>
>
> Tim
>
>
>
>
>
> Tim Saunders
>
> Cyfieithydd Translator
>
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough
> Council
>
>
>
>
>
>
>
> _____
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
> Sent: 21 December 2010 16:25
> To: [log in to unmask]
> Subject: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol
>
> Roedd erthygl hir a diddorol yn yr Observer ddydd Sul am gyfieithu
> peirianyddol.
>
>
>
> Mae ar gael ar lein ar
>
> http://www.guardian.co.uk/technology/2010/dec/19/google-translate-computers-
> languages?INTCMP=SRCH
>
>
>
> Claire
>
>
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o
> dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol
> yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
>
>
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the
> number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road,
> Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
>
>
>
>
>
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
> legislation
>
> For the full disclaimer please access <http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer>
> http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin
> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i
> defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam
> a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
> cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
> berthnasol.
>
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http:// <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad>
> www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1170 / Virus Database: 1435/3330 - Release Date: 12/21/10
>
>
----------------------------------------------------------------
This message was sent using IMP, the Internet Messaging Program.
|