Expressions of Interest for:
Introduction to Practical Collections Management Training Programme
Would you or a member of your staff be interested in undertaking an Introduction to Practical Collections Management training programme?
CyMAL are currently considering the feasibility of offering such a training programme in partnership with the National Museum Wales, but need to know the demand for such a programme before arrangements can be made for a pilot programme.
The programme would be delivered by National Museum Wales staff at NMW sites in South Wales in spring 2011, and participants would have to commit to attending the six one-day modules over a period of three months.
The modules are designed for curatorial staff working with collections on either a daily or an occasional basis. They will provide the underpinning knowledge required to understand why, how and when procedures should be used.
The programme modules:
1. The Ethics of Collections Management and Acquisition of Collections
2. Documentation of Collections
3. Loans and Object Movement
4. Risk Management and Access
5. Conservation
6. Disposal of Collections
The free programme would open to those working in eligible museums in Wales, and assistance with travelling/subsistence expenses would be provided.
To register interest in the programme, please email participant details (name and job title, organisation, contact email address & tel. no) to:
Denise Lavis
Training & Development Adviser
CyMAL - Museums Archives and Libraries Wales
Welsh Assembly Government
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UR
Direct Line: 03000622111
E-mail: [log in to unmask]
I look forward to hearing from you.
Thank You
Gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb:
Rhaglen Hyfforddi ar Arferion Rheoli Casgliadau
A fyddai gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mewn rhaglen hyfforddi ar Arferion Rheoli Casgliadau?
Mae CyMAL wrthi’n ystyried y posibilrwydd o drefnu, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, raglen hyfforddi ar arferion rheoli casgliadau. Mae angen gwybod faint o alw fyddai am raglen o’r fath cyn y gellid mynd ati i gynnal rhaglen beilot.
Byddai’r rhaglen yn cael ei darparu gan staff Amgueddfa Cymru yn safleoedd yr Amgueddfa yn y De yng ngwanwyn 2011. Byddai’n rhaid i’r sawl sydd am gymryd rhan ymrwymo i fynychu chwe modiwl undydd dros gyfnod o dri mis.
Mae’r modiwlau wedi’u llunio’n benodol ar gyfer staff sy’n gweithio ym maes curaduriaeth, ac sy’n gweithio gyda chasgliadau naill ai bob dydd neu o bryd i’w gilydd. Bydd yr wybodaeth a ddysgir yn y modiwlau yn sail i ddeall pam, sut a phryd y dylid defnyddio gweithdrefnau neu arferion penodol.
Dyma fodiwlau’r rhaglen:
1. Moeseg Rheoli a Ffurfio Casgliadau
2. Dogfennaeth Casgliadau
3. Benthyca a Symud Gwrthrychau
4. Mynediad a Rheoli Risg
5. Cadwraeth
6. Gwaredu Casgliadau
Byddai’r cyrsiau hyn am ddim ac ar agor i’r rheini sy’n gweithio mewn amgueddfeydd cymwys yng Nghymru. Byddai cymorth ar gael â chostau teithio/cynhaliaeth.
I gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant, e-bostiwch eich manylion (eich enw, teitl eich swydd, enw’r sefydliad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) at:
Denise Lavis
Cynghorydd Hyfforddi a Datblygu
CyMAL – Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UR
Rhif Uniongyrchol : 03000622111
E-bost: [log in to unmask]
Edrychaf ymlaen i glywed gennych
Diolch
|