Slogan ar gyfer poster yw'r uchod. Mae'r poster yn son am ymddygiad gwrthgymdeithasol / troseddol yn dilyn yfed gormod o alcohol, felly mae'r slogan yn cyfeirio at 2 fath o far - bar mewn tafarn, sy'n hwyl, a barrau mewn cell, sydd ddim yn hwyl! Meddwl oeddwn i tybed a oes rhywbeth mwy bachog na "Nid yw barrau bob tro'n hwyl" y gallwn ddefnyddio?
Hefyd ar y poster, mae'n dweud "know your limits". Mae Term Cymru yn cynnig "deall eich unedau", ond sai'n hollol siwr amdano. Dyw e ddim cweit yn taro deuddeg rhyw ffordd. Help plis! :)
Diolch ymlaen llaw.
Cofion,
Meinir
|