Yn yr achos yma, addysg yw'r cyd-destun.
Yn ôl y darlithydd, ystyr 'funneling' yw trafod problem gyda'r disgybl
ond yn lle dal ati i ofyn cwestiynau penagored sy'n ysgogi meddwl y
disgybl, gofyn cwestiynau mwy cyfyngedig sy'n arwain y disgybl i
gyfeiriad arbennig a'i gwneud yn haws iddo/iddi roi'r ateb.
Dw i wedi chwilio ar y we hefyd, ac un diffiniad ydi cwestiwn
[that] allows for a deeper understanding of the learning objectives.
Also called 'drilling down' into the student's knowledge level.
Ychydig yn wahanol felly.
Roedd y darlithydd yn awyddus i ddod o hyd i air Cymraeg i'w gyfieithu -
fy nhuedd i oedd aralleirio - rhywbeth fel 'cyfyngu ar faes y
drafodaeth'. Wela i ddim pwynt amlhau termau anghyffredin. Ond efallai
fod term yn cael ei arfer ym myd addysg yn barod?
Diolch.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|