Www, dw i'n hoffi'r awgrym yna'n fawr. Mae'n gyfarwydd a'r ystyr yn
eglur. Mi awgryma i i'r darlithydd ei fod yn defnyddio 'sianelu'r
drafodaeth' neu 'sianelu'r sgwrs'.
Diolch yn fawr.
Carolyn wrote:
> sianelu?
>
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia
> Prys
> Anfonwyd/Sent: 06 Hydref 2010 11:35
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: funneling
>
> Yn yr achos yma, addysg yw'r cyd-destun.
>
> Yn ôl y darlithydd, ystyr 'funneling' yw trafod problem gyda'r disgybl
> ond yn lle dal ati i ofyn cwestiynau penagored sy'n ysgogi meddwl y
> disgybl, gofyn cwestiynau mwy cyfyngedig sy'n arwain y disgybl i
> gyfeiriad arbennig a'i gwneud yn haws iddo/iddi roi'r ateb.
>
> Dw i wedi chwilio ar y we hefyd, ac un diffiniad ydi cwestiwn
> [that] allows for a deeper understanding of the learning objectives.
> Also called 'drilling down' into the student's knowledge level.
>
> Ychydig yn wahanol felly.
>
> Roedd y darlithydd yn awyddus i ddod o hyd i air Cymraeg i'w gyfieithu -
> fy nhuedd i oedd aralleirio - rhywbeth fel 'cyfyngu ar faes y
> drafodaeth'. Wela i ddim pwynt amlhau termau anghyffredin. Ond efallai
> fod term yn cael ei arfer ym myd addysg yn barod?
>
> Diolch.
>
|