A finnau ond dw i'n dal i roi 'ewch i'!
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 22 Hydref 2010 16:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: most visited pages
Cytuno efo chdi, Carolyn. Ond dwi ddim yn rhy siwr a yw 'ymweld' wedi ennill
ei blwyf yn y maes cyfrifiadureg. Dwi wedi bod yn trio ei osgoi ers
blynyddoedd gan roi 'Ewch i www....' am 'Visit www...', ond tydi hyn ddim
mor hawdd! Falle y ca i air efo'r cwsmer i holi ei farn!
Rhian Huws
Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
E-bost/E-mail: [log in to unmask]
Ffôn/Tel: 02920 566839 / 0781 1107492
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 22 October 2010 15:55
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: most visited pages
Ond basa'n rhaid dweud 'yr ymwelwyd â nhw' sy'n mynd yn drwsgwl braidd.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Tomos
Anfonwyd/Sent: 22 Hydref 2010 15:53
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: most visited pages
On Oct 22, 2010, Rhian Huws wrote:
> Diolch yn fawr Huw. Mae hynny???n gweithio???n dda fel pennawd, ond
weithiau mae pethau fel ???number of pages visited??? yn y ddogfen. Ydwi???n
iawn i feddwl y byddai ???nifer y tudalennau a ddarllenwyd??? yn briodol?
Neu falle bod y ffaith bod rhywun wedi mynd i mewn i dudalen ddim o
anghenraid yn golygu eu bod nhw wedi???i darllen hi?!
Mi fasen i'n dweud 'tudalennau a ymwelwyd'. Mae pobl wedi dewis
y termau saesneg yn y maes yma am resymau da.
Mae'r ffordd o gyfri ystadegau ar wefan yn amrywio ond
mi allai ystadegau gynnwys ceisiadau am dudalennau gan 'bots'
(h.y. rhaglenni cyfrifiadurol sy'n crwydro'r we ar gyfer chwilotwyr
fel Google).
Mae peryg i'r gair 'poblogaidd' roi argraff anghywir efallai.
Mae'n ddigon posib fod tudalen ar wefan sy'n cael llawer o ymwelwyr
ond ddim yn dudalennau poblogaidd yn yr ystyr fod pobl yn mwynhau
ymweld a nhw (e.e. ffurflen gwyno, neu y broses o dalu am nwyddau ar
wefan sy'n cael eu cyfri fel tudalennau unigol).
|