On Oct 12, 2010, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Anna
>
> Stwnshiau yw'r lluosog a glywais i a dyna a geir ar y wefan hon,
> http://www.thebait.co.uk/index.php?page=featured&pageId=72&lang=cym
>
> "Adeiladom yr hunaniaeth o amgylch gwahanol fathau o Stwnshiau
> annisgwyl. Mae'r gyfres o 6 'ident' yn arddangos palet cyferbyniol a
> gwrthrychau annisgwyl yn cymysgu."
Mae'r defnydd fan yn chwarae ar eiriau braidd gormod dwi'n meddwl
oherwydd dewis S4C i frandio rhaglenni plant yn 'Stwnsh'. Dyw e ddim
wir yn yr yn cyd-destun a 'mash-up' am ei fod yn waith creadigol gwbl
wreiddiol.
Mae mashup (a stwnsh) yn cyfeirio'n eitha penodol at gymysgu neu
ail-olygu cerddoriaeth/fideo/lluniau sy' wedi eu cyhoeddi'n barod gan
rywun arall. Mae hyn yn tyfu allan o ddiwylliant amatur, tanddaearol -
wedi ei hwyluso yn fawr gan y rhyngrwyd - a creu gwaith newydd allan
o weithiau arall. (mae clytwaith yn air da ond falle ddim yn cwl iawn).
Nawr mae'n bosib iawn fod rhai pobl yn dechrau defnyddio 'mashup' mewn
cyd-destunnau arall am ei fod yn air newydd cwl.
Ond o ddarllen disgrifiad Anna, mae'n bosib nad 'stwnsh' yw'r
disgrifiad iawn yn ei chyd-destun hi.
|