Mae'r drafodaeth hon yn ddiddorol iawn. Byddaf i'n defnyddio cyplysnod
efo'r ddau oherwydd rydw i bob amser wedi credu bod hynny'n adlewyrchu
gwahaniaeth bach yn yr ynganiad, dyweder rhwng 'pen-blwydd' (gair
cyfansawdd) a 'pen draw' (ymadrodd), a dyweder 'ar-lein' ac 'ar wib'.
Hynny yw, mae'r pwyslais yn y gair cyfansawdd a'r ymadrodd yn dod ar yr
ail elfen yn y ddau ond mae'r llais yn oedi fymryn mwy ar yr elfen
gyntaf yn yr ymadrodd. Felly bydda i'n mynd ar-lein ond yn sychu dillad
ar lein.
Hynny yw Andrew Hawke wrote:
> Rydym wedi gorfod wynebu'r broblem hon wrth baratoi'r Geiriadur.
>
> Mae tuedd yn y Saesneg i gyfuno geiriau gyda chyplysnod, ac yna ffurfio
> un gair ohonynt. Felly 'on line' > 'on-line' (yn enwedig fel ansoddair)
> > 'online'.
>
> Mae hyn yn tueddu dylanwadu ar y Gymraeg, felly: 'ar lein' > 'ar-lein'
> (yn enwedig fel ansoddair) > 'arlein' (cymharer 'pen blwydd' >
> 'pen-blwydd' > 'penblwydd').
>
> Mae'r sillafiadau 'arlein' a 'penblwydd' yn awgrymu bod pwyslais ar y
> sillaf gyntaf - felly gwell eu hosgoi (ond mae 'penblwyddi' yn iawn,
> wrth gwrs).
>
> Rydym wedi dewis 'ar lein' a 'pen blwydd' (yn gam neu'n gymwys), gan
> geisio osgoi'r cyplysnod ond pan fydd rhaid ei gynnwys.
>
> Mewn gwirionedd, efallai bod mwy o bobl yn cysylltu'n ddi-wifr erbyn hyn
> nag ar lein, felly gellid dadlau bod y term yn anacronistig! A ddylem
> ddweud 'ar y We' neu 'o'r We' yn ei le? Ac ai 'y We' ynteu 'y we' sy'n
> gywir? Mae'r Saesneg yn gwahaniaethu rhyngddynt i raddau: 'the Web' =
> 'the World Wide Web' (dim ond un sydd), ond gellid sgrifennu `he found
> himself caught up in a web of bureaucracy' (enghraifft o'r Oxford
> Dictionary of English, 2003).
>
> Andrew
>
> Ar 2010/10/7 ysgrifennodd Sian Roberts <[log in to unmask]:
>> <mailto:[log in to unmask]>>
>> Dyma atgyfodi hen edefyn.
>> Beth fyddech chi'n ei ddweud am "Available online" 'te? Mae'n sôn am
>> archebu nwyddau.
>>
>> Mae "Ar gael ar lein" yn edrych yn rhyfedd.
>> Mae TermCymru a'r Porth Termau yn defnyddio "ar-lein" fel ansoddair
>> ond nid yw i weld yn addas yn y cyd-destun hwn.
>>
>> "Ar gael dros y we"?
>
> --
> Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur Prifysgol Cymru,
> Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell
> Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH
> Andrew Hawke | Managing Editor| University of Wales Dictionary of the
> Welsh Language, University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic
> Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK
> ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44 (0)1970 631039 |
> [log in to unmask] | gwe/web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
> Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol Cymru
> / This message does not necessarily reflect the opinion of the
> University of Wales
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|