Rydym wedi gorfod wynebu'r broblem hon wrth baratoi'r Geiriadur.
Mae tuedd yn y Saesneg i gyfuno geiriau gyda
chyplysnod, ac yna ffurfio un gair ohonynt. Felly
'on line' > 'on-line' (yn enwedig fel ansoddair) > 'online'.
Mae hyn yn tueddu dylanwadu ar y Gymraeg, felly:
'ar lein' > 'ar-lein' (yn enwedig fel
ansoddair) > 'arlein' (cymharer 'pen blwydd' > 'pen-blwydd' > 'penblwydd').
Mae'r sillafiadau 'arlein' a 'penblwydd' yn
awgrymu bod pwyslais ar y sillaf gyntaf - felly
gwell eu hosgoi (ond mae 'penblwyddi' yn iawn, wrth gwrs).
Rydym wedi dewis 'ar lein' a 'pen blwydd' (yn gam
neu'n gymwys), gan geisio osgoi'r cyplysnod ond pan fydd rhaid ei gynnwys.
Mewn gwirionedd, efallai bod mwy o bobl yn
cysylltu'n ddi-wifr erbyn hyn nag ar lein, felly
gellid dadlau bod y term yn anacronistig! A
ddylem ddweud 'ar y We' neu 'o'r We' yn ei le? Ac
ai 'y We' ynteu 'y we' sy'n gywir? Mae'r Saesneg
yn gwahaniaethu rhyngddynt i raddau: 'the Web' =
'the World Wide Web' (dim ond un sydd), ond
gellid sgrifennu `he found himself caught up in a
web of bureaucracy' (enghraifft o'r Oxford Dictionary of English, 2003).
Andrew
Ar 2010/10/7 ysgrifennodd Sian Roberts <[log in to unmask]:
><mailto:[log in to unmask]>>
>Dyma atgyfodi hen edefyn.
>Beth fyddech chi'n ei ddweud am "Available online" 'te? Mae'n sôn am
>archebu nwyddau.
>
>Mae "Ar gael ar lein" yn edrych yn rhyfedd.
>Mae TermCymru a'r Porth Termau yn defnyddio "ar-lein" fel ansoddair
>ond nid yw i weld yn addas yn y cyd-destun hwn.
>
>"Ar gael dros y we"?
--
Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur
Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a
Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH
Andrew Hawke | Managing Editor| University of
Wales Dictionary of the Welsh Language,
University of Wales Centre for Advanced Welsh &
Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK
ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44
(0)1970 631039 | [log in to unmask] | gwe/web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn
adlewyrchu barn Prifysgol Cymru / This message
does not necessarily reflect the opinion of the University of Wales
|