A oes unrhyw gyfieithydd o'ch plith erioed wedi defnyddio 'Lletyaeth' am
Accommodation, yn hytrach ne 'llety'?
Eurwyn.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 29 September 2010 11:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: claimant / right
Diamwysedd [?] yn allweddol bwysig, er bod hyn ar adegau yn gorfodi
rhywun i arfer geiriau ac ymadroddion sydd ymhell o fod yn bert neu'n
ramadegol.
'Accommodation' yn dueddol o fod yn lletach ei gwmpas na 'dwelling' ac,
yn gam neu'n gymwys, 'llety' yw'r gair arferol yn y ddeddfwriaeth.
Anodd!
yn iach,
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 29 September 2010 11:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: claimant / right
Diolch Tim,
Roeddwn wedi defnyddio 'llety' mewn paragraph blaenorol oedd yn
disgrifio 'boarder' fel rhywun sy'n derbyn lluniaeth a llety ('board and
lodging'). Tybiais y byddai defnyddio 'preswylfa' yn y paragraph dilynol
am denant yn llai dryslyd i'r person fyddai'n llenwi'r ffurflen arlein -
er efallai y byddai wedi bod yn dderbyniol.
Yn gam neu'n gymwys, tueddaf i roi mwy o bwyslais ar fod yn ddiamwys
mewn dogfennau fel hyn yn hytrach na bod yn ieithyddol 'gywir' bob tro.
Dafydd
==============
'Llety' sy'n arferol am 'accommodation' yng nghyd-destun cyfraith eiddo.
Tim
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin
yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i
defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam
a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|