Wrth gwrs, does dim rheswm pam na ellir creu geiriau eraill o 'ynni' hefyd.
Gw. GPC 'ynïol'
Hyd y gwelaf 'ynni' oedd y gair a ddefnyddid yn Y Gwyddonydd o ran 'ynni
niwclear' 'ynni heulol' 'cynhyrchu ynni' 'cwmnïau ynni' ayyb.
"Adweithydd Newydd yr Awdurdod Ynni Atomig" (1963)
"Anghenion ynni", "Ffynonellau eraill o ynni" (1979)
"Mae technoleg ynni niwclear yn gostus ac yn gymhleth" (1988)
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia
Prys
Anfonwyd/Sent: 18 Awst 2010 10:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: energy
Sian Roberts wrote:
> "An average school lunch should provide around 30% of the total daily
energy requirement."
> "Energy is most commonly expressed in "calories" but the actual unit is a
kilocalorie."
>
> Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng "ynni" ac "egni" rydw i. Fe wnes i
Gwglo hyn a chael hyd i drafodaeth ddigon difyr ar maes-e slawer dydd:
>
> "Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd - Maw Tach 28, 2006 11:33 am:
> Ar S4C neithiwr... "gêm y Gweilch yng Nghwpan Egni EDF yn fyw ar S4C".
> Yyyym, Sbrec, cwmni ynni yw EDF. Peth bach, mi wn, ond mae wedi
nghythruddo i ta beth.
>
> Chwadan: Maw Tach 28, 2006 12:19 pm
> Be di'r gwahaniaeth rhwng ynni ac egni? On i'n meddwl mai "energy" oedd y
cyfieithiad o'r ddau?
>
> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:40 pm Ie ond mae egni yn
> perthyn i berson, lle mae ynni yn perthyn i rhywbeth amhersonol e.e.
> trydan, nwy a.y.y.b. Gall egni hefyd meddwl drive verve vigour a
> vitality
>
> sian » Maw Tach 28, 2006 12:51 pm
> Wir? Lle welaist ti hynny?
> Dyw hynny ddim yn amlwg o'r Briws:
> energy: egni, ynni, nerth, grym, grymuster, cryfder; Physics: ynni, egni
(sy'n awgrymu mai ynni sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf yn y cyd-destun hwn
ond bod egni'n iawn hefyd); binding energy = egni uno; energy flow = llilf
egni etc.
> Mae Geiriadur y Brifysgol yn awgrymu run peth - bod modd defnyddio'r naill
neu'r llall i gyfeirio at bobl a phethau.
>
> Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:56 pm Dyna beth oedd fy athro
> gwyddoniaeth wastad yn dweud, ...
> Ynni sy'n cael ei defnyddio yn ystyr cwmniau fel hyn, ynni niwclear,
> ynni nwy a.y.y.b
>
> dafydd » Maw Tach 28, 2006 1:15 pm
> Efallai mai confensiwn sydd wedi datblygu yw hyn, ond mae ynni yn rywbeth
haniaethol wrth drafod y modd o gynhyrchu, ac egni yw'r hyn sy'n cael ei
ddefnyddio. Mi all 'nwy' fod yn ynni, ond mae'n cael ei losgi i greu egni
(egni gwres yn cynhesu dŵr er enghraifft)."
>
> Difyr 'te? I gyd mewn llai na dwy awr!
> Beth bynnag, yn ôl y drafodaeth yna, ydw i'n iawn i ddweud mai "egni"
yw'r gair dwi'n chwilio amdano fan hyn?
>
> Diolch
>
> Siân
Wn i ddim a oedd unrhyw wahaniaeth ystyr i gychwyn ond dw i'n gwybod bod y
criw Safoni Termau ym Mangor wedi ffafrio'r defnydd o'r gair 'egni' ar draul
'ynni' oherwydd bod modd creu geiriau eraill ohono - egniol etc.
maen prawf pwysig wrth ddewis term 'safonol'. Ond gwelson nhw fod ynni wedi
ennill ei blwyf yng nghyd-destun 'ynni niwclear' etc. Efallai gallai Delyth
roi mwy o eglurhad i ti ond mae hi yn Nulyn mewn cynhadledd. Am ryw reswm
byddwn i'n dweud 'plentyn llawn egni' - wn i ddim pam. Mae'n siwr y bydd gan
y gwyddonwyr yn ein plith atebion llawer gwell i ti.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|