"An average school lunch should provide around 30% of the total daily energy requirement."
"Energy is most commonly expressed in "calories" but the actual unit is a kilocalorie."
Eisiau gwybod y gwahaniaeth rhwng "ynni" ac "egni" rydw i. Fe wnes i Gwglo hyn a chael hyd i drafodaeth ddigon difyr ar maes-e slawer dydd:
"Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd - Maw Tach 28, 2006 11:33 am:
Ar S4C neithiwr... "gêm y Gweilch yng Nghwpan Egni EDF yn fyw ar S4C".
Yyyym, Sbrec, cwmni ynni yw EDF. Peth bach, mi wn, ond mae wedi nghythruddo i ta beth.
Chwadan: Maw Tach 28, 2006 12:19 pm
Be di'r gwahaniaeth rhwng ynni ac egni? On i'n meddwl mai "energy" oedd y cyfieithiad o'r ddau?
Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:40 pm
Ie ond mae egni yn perthyn i berson, lle mae ynni yn perthyn i rhywbeth amhersonol e.e. trydan, nwy a.y.y.b. Gall egni hefyd meddwl drive verve vigour a vitality
sian » Maw Tach 28, 2006 12:51 pm
Wir? Lle welaist ti hynny?
Dyw hynny ddim yn amlwg o'r Briws:
energy: egni, ynni, nerth, grym, grymuster, cryfder; Physics: ynni, egni (sy'n awgrymu mai ynni sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf yn y cyd-destun hwn ond bod egni'n iawn hefyd); binding energy = egni uno; energy flow = llilf egni etc.
Mae Geiriadur y Brifysgol yn awgrymu run peth - bod modd defnyddio'r naill neu'r llall i gyfeirio at bobl a phethau.
Griff-Waunfach » Maw Tach 28, 2006 12:56 pm
Dyna beth oedd fy athro gwyddoniaeth wastad yn dweud, ...
Ynni sy'n cael ei defnyddio yn ystyr cwmniau fel hyn, ynni niwclear, ynni nwy a.y.y.b
dafydd » Maw Tach 28, 2006 1:15 pm
Efallai mai confensiwn sydd wedi datblygu yw hyn, ond mae ynni yn rywbeth haniaethol wrth drafod y modd o gynhyrchu, ac egni yw'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio. Mi all 'nwy' fod yn ynni, ond mae'n cael ei losgi i greu egni (egni gwres yn cynhesu dŵr er enghraifft)."
Difyr 'te? I gyd mewn llai na dwy awr!
Beth bynnag, yn ôl y drafodaeth yna, ydw i'n iawn i ddweud mai "egni" yw'r gair dwi'n chwilio amdano fan hyn?
Diolch
Siân
|