Gas gen i fwydlenni!
Busnes o'r enw "Tan Y Castell Welshcakes"
Ydw i'n gadael yr Y fawr yn y canol yn y fwydlen? - ydi hynny'n rhan
o'r brand?
Mae eu gwefan yn ddwyieithog, chware teg, a dyna sydd yn yr ochr
Gymraeg hefyd.
Mae 'na adran yn sôn am "Hanes pice ar y maen" felly dyna ddatrys y
broblem honno!
(Gweld hi'n rhyfedd mai "Welsh cakes" oedd yr enw ffor'cw - gan mam a
mam-gu oedd yn wraig ffarm - er mai eu gwneud fyddai pobl bryd hynny
ac nid eu prynu mewn pecyn â label arno. Tybed beth oedd mam mam-
gu'n ei ddweud?)
Diolch
Siân
|