On Jul 28, 2010, Carolyn wrote:
> Mae hynny'n wir heblaw bod y termau Saesneg yn cael eu defnyddio'n amlach ac
> felly'n fwy cyfarwydd. Sgen i ddim gwrthwynebiad - ond meddwl ella bod yr
> elfen 'cysylltiad' yn rhoi gwell awgrym am y maes.
Ond mae'n bosib fod 'digyswllt' yn gamarweiniol hefyd. Nid diffyg
cysylltiad gyda'r rhyngrwyd yw'r broblem i ran fwyaf (sawl ty yng
Nghymru sydd methu cael gwifren ffon na signal ffon symudol?), ond:
1) cysylltiad araf (dim band llydan neu gyflymder llawer is na'r cyfartaledd)
2) cysylltiad annibynnadwy
3) dim dewis darparwyr heblaw BT mewn ardaloedd llai poblog
4) dim cynlluniau i uwchraddio'r dechnoleg yn y gyfnewidfa
Hynny yw.. ystyr notspot ydi "methu cael gwasanaeth band llydan" nid
"methu cael cysylltiad rhyngrwyd".
|