Diolch Meleri
Yr hen gnaf!
Siân
On 30 Gorff 2010, at 12:40, Meleri Haf Hughes wrote:
> Teimlaf fod rhaid i mi dynnu eich sylw at e-bost sydd newydd fy
> nghyrraedd gan rywun yn gofyn i mi wneud gwaith cyfieithu iddo.
> Roeddwn i'n hapus i gael cynnig gwaith i ddechrau, ond wrth edrych
> yn fanylach ar dôn a geiriad yr e-bost, roeddwn i'n reit amheus
> mae'n rhaid i mi ddweud, ac yn enwedig felly gan nad oedd enw cwmni
> yn unman ar y neges ac mai o gyfeiriad Yahoo yr anfonwyd y neges hon.
>
> Penderfynais 'Gwglo' fanylion y dyn hwn, ac yn wir, cefais wybod
> mai 'sgam' oedd yr e-bost, e-bost y mae amryw o gyfieithwyr eraill
> wedi'i chael yn ôl pob golwg. Mae'r anfonwr yn gofyn i chi ateb i
> gadarnhau eich bod chi'n derbyn y gwaith, ac yna mae yntau'n ateb
> yn ôl yn gofyn am fanylion eich cyfrif banc chi, i gael
> trosglwyddo'r taliad am eich gwaith!!
>
> Am fwy o wybodaeth am y 'sgam', ewch i: http://
> www.dicecarmen.blogspot.com/
>
> Ond dyma gopi o'r neges e-bost isod a gefais i:
>
> Morning,
> How are you doing today and can you take a translation job right
> now,here is the document attached with this email and let me know
> how much you charge per words.I want it translated from English to
> Welsh but you should be able to finish in 4 weeks time,awaits your
> mail soon.
>
> Regards.
> Dave Jorden,
> 160 Scotland Street
> Glasgow Lanarkshire
> G5 8PL
> UK
>
>
> Meleri Hughes
|