Geraint Lovgreen wrote:
> 'goroesi' yn hytrach na 'goresgyn', ie?
>
> goroeswyr?
> cyn-ddioddefwyr?
>
Roeddwn i wedi meddwl am 'oroeswyr' ond yn meddwl bod hynny'n awgrymu
bod nhw ddim wedi marw e.e. goroeswyr 9-11? Neu ydi'n iawn ei ddefnyddio
mewn cyd-destun ehangach?
Doeddwn i ddim wedi meddwl am gyn-ddioddefwyr ond dydw i ddim yn siwr
ydi hynny'n awgrymu bod y dioddef wedi dod i ben. Hynny yw mae'r
dogfennau'n cyfeirio'n aml hefyd at y ffaith eu bod yn fregus ac am wn i
mae profiadau felly yn bethau sy'n peri dioddefaint oes i rywun.
Y gwir ydi mod i wrthi ers oriau yn cyfieithu sawl dogfen yn y maes ac
mae rhywun yn mynd i feddwl gormod, mae'n siwr am un gair neu ymadrodd.
Os rhywbeth mae'n well gen i 'cyn ddioddefwyr' na 'goroeswyr' oherwydd
bod pobl yn fwy cyfarwydd â'r gair.
>>
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|