Wedi gwglo'r awgrymiadau, mae'n ymddangos mai "seren y gem" a ddefnyddir
fwyaf, hyd yn oed yn y Saesneg: "Rich Evans was named Seren y Gem but was
crap at the 1/2 yard of ale!"
Newydd weld ail neges Sylvia hefyd.
Diolch yn fawr iawn iawn i bawb.
Gyda llaw, fel golygyd achlysurol y papur, beth fyddai'r ffordd orau imi
ddarbwyllo athrawon i arfer (nid dim ond i ddefnyddio yn eu hadroddiadau,
ond i *arfer*) termau Cymraeg am "Operation Christmas Child", "Race for
Life", "cheerleadio" ayb.? Mae gen i gyfeiriadau e-bost yr holl gyfrannwyr
arferol, felly gallwn anfon rhestr termau "yn gymorth", ond hyd yn hyn nid
wyf hyd yn oed wedi cael pobl i roi teitlau call i'w negeseuon, fel bod
rhaid imi chwilio trwy dros gant o negeseuon e-bost, a'r rhan fwyaf a'r
teitl "Rhifyn mis Mehefin" neu "Erthygl i'r Goriad". Byddai angen dyfal
donc i lwyddo, ac efallai byddai sawl un yn dweud, "peidiwch a dweud wrthyf
i sut mae rhaid imi wneud gwaith gwirfoddol y byddai'n well gen i hebddo".
Diolch am gael dweud fy ngwyn!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Pierce
Jones
Sent: 31 May 2010 11:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Man of the Match
seren y gêm?
----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, May 31, 2010 11:18 AM
Subject: Re: Man of the Match
anna gruffydd wrote:
> Dwi'm yn gwbod am ddim byd - os nad oes na ddim eisoes, be am rwbath fel
> giamstar y gem?
>
> Anna
>
> 2010/5/31 Ann Corkett <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Help! Oes ‘na unrhyw un wrth y cyfrifiadur heddiw? Wrthi’n golygu’r
> papur bro eto. Mae rhaid bod ‘na derm eisoes.
>
>
> Llawer o ddiolch,
>
>
> Ann
>
>
Chwaraewr y gêm dw i'n credu.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|