Wow! Dim yn cofio'r hyn a ddywedais fy hun! "Cofio" a "coffau" daeth i'n
meddyliau ni'r bore 'ma.
Ann
Original Message:
-----------------
From: Geraint Lovgreen [log in to unmask]
Date: Mon, 26 Apr 2010 11:54:55 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: celebrate/celebration
Coffįu fyddai'n well yn y cyd-destun yma siawns.
----- Original Message -----
From: Siān Roberts
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, April 26, 2010 11:15 AM
Subject: Re: celebrate/celebration
Dw i'n meddwl mai defnyddio dathlu am "commemorate" oedd dan sylw yng
nghyd-destun marwolaeth - Ann yn dweud ei bod wedi holi Bruce (Mon, 22 May
2006 13:42:50):
"Holais i ynghylch arfer sydd yn swnio'n chithig i mi e.e. "dathlu
marwolaeth X" (iawn o'i gyfieithu fel "commemorate", ond peidiwch a'i
gyfieithu fel "celebrate"!). Dywedodd y byddai rhywbeth fel "dathlu Y
can
mlwyddiant marwolaeth X" yn well."
Siān
On 26 Ebrill 2010, at 11:04, GLENYS ROBERTS wrote:
Dw i'n nabod rhywun ddathlodd farwolaeth Franco yn '75 ...
--- On Mon, 26/4/10, Geraint Lovgreen
<[log in to unmask]> wrote:
From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Subject: Re: celebrate/celebration
To: [log in to unmask]
Date: Monday, 26 April, 2010, 10:31
Wel ie, mae'r ddwy enghraifft yna YN chwithig yn dyden? Ond
dydw i erioed wedi gweld cyfeiriad at ddathlu marwolaeth neb! (Heblaw un
Magi Thatcher, ella, gweler cān Elvis Costello "Tramp the Dirt Down" er
enghraifft)
----- Original Message -----
From: Siān Roberts
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, April 26, 2010 10:25 AM
Subject: Re: celebrate/celebration
Mae hwn wedi'i drafod o'r blaen o dan "Celebrate" ar 22 Mai
2006 -
Roedd sōn bryd hynny bod "dathlu'r arfordir" a "dathlu
marwolaeth" yn swnio'n chwithig.
Siān
On 26 Ebrill 2010, at 10:11, anna gruffydd wrote:
Mae GyrA yn reit benodol ynghylch ystyron celebrate - ond
os nagdio'n broblem i chdi mi roddaf fy ddydd ynot yn gyfan gwbl - at y
ffaith mod i'n dy drystio di eniwe mae'n gneud bywyd lot haws i mi!!
Annes
2010/4/26 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Dwi ddim yn gweld dim byd o'i le ar "dathlu" - be di'r
broblem?
Geraint
----- Original Message -----
From: anna gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Saturday, April 24, 2010 11:12 AM
Subject: celebrate/celebration
(Nid yn yr ystyr o gadw gwyl). Yr erthyl eiria yma sy'n
codi'u pennau hyll ym mhob man. Bob un tro dwi'n eu gweld nhw dwi'n gorfod
crafu mhen am hydoedd. Dwi'm yn teimlo bod na air Cymraeg sy'n llawn gyfleu
be sy gynnyn nhw - y clodfori ar yr un pryd a llawenychu. Weithia mae
'morio yn' yn gwneud y tro ond ddim bob amser. Felly, er mwyn fy mhwyll dwi
bellach wedi penderfynu - weithia - bod rhaid i mi ddefnyddio
dathlu/dathliad - ymddiheuradau ymlaen llaw os gwel rhywun ohonoch rywbeth
dwi wedi'i gyfieithu a gresynu mod i'n camddefnyddio'r geiria. Oce?
Annes
--------------------------------------------------------------------
mail2web - Check your email from the web at
http://link.mail2web.com/mail2web
|