Ie, ac os ydio'n cynnwys "branded restaurants and pubs" dydi o ddim yn fwyd
sy'n cael ei gario allan chwaith o reidrwydd...
Dwi'n hoffi'r ffordd mae'r esboniad yn dweud "might sound confusing, but it
needn't be" cyn mynd ymlaen i roi esboniad sydd ddim ond yn cymhlethu pethau
ymhellach!
Arlwyo parod?
Arlwyo manwerthu?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 07, 2010 11:02 AM
Subject: Re: retail catering
Diolch Melanie. Wnes i feddwl am hynna - ond mae bwydydd parod yn
gallu golygu "ready meals" sydd ddim, mewn gwirionedd, yn barod i'w
bwyta.
Fe gawson ni drafodaeth ar hyn o dan "fast food" a "take-away food"
rai blynyddoedd yn ôl ond dw i ddim yn meddwl bod cytundeb bryd hynny.
Soniwyd am "cludfwyd" ond dw i ddim yn hoff ohono - mae'n swnio fel
gair gwneud ac yn annhebygol o gael ei ddefnyddio gan bobl.
Soniwyd am "pryd stryd" hefyd. Dydi hwnnw ddim yn swnio cweit mor
ffuantus â "blwch llwch" a "ffôn lôn" - ond dw i ddim yn meddwl ei
fod yn hollol addas ar gyfer "retail catering"
On 7 Ebrill 2010, at 10:34, Melanie Davies wrote:
> Gwerthwyr bwyd parod?
>
> --------------------------------------------------
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 07, 2010 10:26 AM
> To: <[log in to unmask]>
> Subject: retail catering
>
>> "Well, the term "retail catering" might sound a bit confusing, but it
>> needn't be. Broadly speaking, it covers a lot of today's popular,
>> grab-and-go or affordable concepts, including sandwich, coffee and fast
>> food chains and even branded restaurants and pubs. You'll find them
>> everywhere from airports and motorway service stations to shopping
>> malls, leisure centres and even high streets - in fact, anywhere with a
>> large volume of customers."
>>
>> O diar!
>> "mannau gwerthu bwyd cario allan" ?
|