Ac eto, yn fy mhrofiad beunyddiol i, y treiglad llaes fydda i’n ei glywed yn
ddieithriad ar leferydd y ffermwyr a’r werin ‘di-goleg’ yng nghefn gwlad
Meirionnydd a Maldwyn, o leiaf. Mae’n ddigon posib, wrth gwrs, nad ydyw’r
cyfryw lafurwyr gweithgar (yng ngwir draddodiad y ffordd Gymreig o fyw) yn
cael ryw lawer o amser sbâr naill ai i ddarllen deunyddiau Cymraeg diweddar,
nac i wrando ar Radio Cymru, ac yn sicr ddigon nid i wylio S4C. A dyna sydd
i’w gyfrif, siwr o fod, am barhad cywirdeb a gloywder cyson eu Cymraeg
llafar o hyd. O bydded i’r ‘hen’ iaith barhau.
Eurwyn Pierce Jones
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 April 2010 23:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: a drwy / a thrwy
Dwi'n gwybod mai'r fersiwn treiglad llaes sy'n gywir yn yr iaith
ysgrifenedig ond y fersiwn treiglad meddal ydw i wedi ei glywed erioed ar
lafar.
----- Original Message -----
From: "Mary Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 08, 2010 10:37 PM
Subject: Re: a drwy / a thrwy
> Mae T J Morgan yn Treigladau a'u Cystrawen ar dud. 451/2 yn weddol glir
> ynglyn ag 'a thros / a thrwy' etc. i ffasiwn ddiweddar yw 'a dros / a drwy
> /
> a gan'? Maen nhw'n ddieithr ar lafar yn ne Ceredigion. Hoffwn glywed gan
> bobl o ardaloedd eraill, os gwelwch yn dda.
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned
> Graham-Cameron
> Sent: 08 April 2010 15:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: a drwy / a thrwy
>
> Teimlo'n ddryslyd ar brynhawn Iau!
>
> Prawfddarllen gwaith sydd eisoes wedi ei gyfieithu a dod ar draws "a
> drwy".
> Edrych ar Gwgl ac mae 5,270 enghraifft ohono, ond 128,00 enghraifft o "a
> thrwy".
>
> Dwi'n ffafrio'r ail, ond gofyn barn cyn newid y testun.
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Sioned
>
|