Mae'n ddifyr bod y ddwy ffurf yn eitha cyffredin - mae'n debyg fod 'a drwy'
yn cael ei ddefnyddio am mai ffurf gysefin y gair i lawer o bobl erbyn hyn
yw 'drwy' sef y ffurf sy'nc ael ei defnyddio amlaf i gyflwyno cymal
adferfol. Mae'n naturiol wedyn bod pobl yn peidio â threiglo ar ôl 'a'. Dw i
ddim yn dadlau o blaid hyn mewn Cymraeg safonol ond mae'n dangos bod yr
iaith yn fyw am wn i am fod pobl yn newid eu harferion wrth i'r iaith
ddatblygu.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhys Osian
(AcadReg)
Anfonwyd/Sent: 09 Ebrill 2010 10:32
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB/RE: a drwy / a thrwy
Fel dw i wedi sôn o'r blaen, pan fydda i'n ystyried y math yma o beth fydda
i'n aml yn meddwl be ddwedai fy neiniau a'm teidiau. Yn digwydd bod,
"ffermwyr a'r werin di-goleg yng nghefn gwlad Meirionnydd a Maldwyn" ydyn
nhwythau. Well i fi fod yn ofalus a peidio siarad dros bob un ohonyn nhw,
ond mi ddweda i'n eitha hyderus mai "a trwy" neu "a drwy" ddywedai tri allan
o'r pedwar wrth siarad yn naturiol, ac yn fy marn i dyw eu Cymraeg yn ddim
llai gloyw o'r herwydd. Yr unig amser y galla i feddwl amdanyn nhw'n dweud
"a thrwy" ydy pan fyddan nhw'n dyfynnu'r Beibl neu rywbeth felly, sef faint
o 'addysg Gymraeg' gawson nhw.
Dw i ddim yn amau'r hyn ddwedwch chi Eurwyn, eich bod yn clywed y treiglad
llaes yn feunyddiol. Dim ond nodi, rhag i ni or-fawrygu'r gorffennol, nad yw
hyd yn oed y werin bobl pedwar-ugain-oed i gyd yn treiglo'n llaes bob tro,
hyd yn oed ym Meirion a Maldwyn.
Osian
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eurwyn
Pierce Jones
Sent: 09 Ebrill 2010 10:05
To: [log in to unmask]
Subject: a drwy / a thrwy
Ac eto, yn fy mhrofiad beunyddiol i, y treiglad llaes fydda i'n ei glywed yn
ddieithriad ar leferydd y ffermwyr a'r werin 'di-goleg' yng nghefn gwlad
Meirionnydd a Maldwyn, o leiaf. Mae'n ddigon posib, wrth gwrs, nad ydyw'r
cyfryw lafurwyr gweithgar (yng ngwir draddodiad y ffordd Gymreig o fyw) yn
cael ryw lawer o amser sbâr naill ai i ddarllen deunyddiau Cymraeg diweddar,
nac i wrando ar Radio Cymru, ac yn sicr ddigon nid i wylio S4C. A dyna sydd
i'w gyfrif, siwr o fod, am barhad cywirdeb a gloywder cyson eu Cymraeg
llafar o hyd. O bydded i'r 'hen' iaith barhau.
Eurwyn Pierce Jones
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 April 2010 23:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: a drwy / a thrwy
Dwi'n gwybod mai'r fersiwn treiglad llaes sy'n gywir yn yr iaith
ysgrifenedig ond y fersiwn treiglad meddal ydw i wedi ei glywed erioed ar
lafar.
----- Original Message -----
From: "Mary Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 08, 2010 10:37 PM
Subject: Re: a drwy / a thrwy
> Mae T J Morgan yn Treigladau a'u Cystrawen ar dud. 451/2 yn weddol glir
> ynglyn ag 'a thros / a thrwy' etc. i ffasiwn ddiweddar yw 'a dros / a drwy
> /
> a gan'? Maen nhw'n ddieithr ar lafar yn ne Ceredigion. Hoffwn glywed gan
> bobl o ardaloedd eraill, os gwelwch yn dda.
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned
> Graham-Cameron
> Sent: 08 April 2010 15:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: a drwy / a thrwy
>
> Teimlo'n ddryslyd ar brynhawn Iau!
>
> Prawfddarllen gwaith sydd eisoes wedi ei gyfieithu a dod ar draws "a
> drwy".
> Edrych ar Gwgl ac mae 5,270 enghraifft ohono, ond 128,00 enghraifft o "a
> thrwy".
>
> Dwi'n ffafrio'r ail, ond gofyn barn cyn newid y testun.
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Sioned
>
|