Dw i wedi holi'r cwsmer. Gobeithio am ateb clir a dealladwy!
On 7 Ebrill 2010, at 11:29, Carolyn wrote:
> Dw i ddim wir yn dallt felly be sy'n gyffredin i'r holl bethau ma sy'n
> golygu eu bod nhw'n cael eu crynhoi dan un term 'retail catering'.
> Beth sy'n
> gyffredin rhwng 'La Tasca' a stondin brechdanau yn Tesco?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire
> Richards
> Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2010 11:26
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: retail catering
>
> Efallai ym McDonalds, ond os yw'n cynnwys lleoedd fel Harvester,
> Cafe Rouge
> a La Tasca, mae pobl yn mynd yno i eistedd i lawr a chael pryd tri
> chwrs,
> fel maen nhw mewn bwytai annibynnol.
>
> Claire
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
> Carolyn
> Sent: 07 April 2010 11:15
> To: [log in to unmask]
> Subject: ATB: retail catering
>
> Ai'r un peth sy'n gyffredin i'r rhain i gyd yw bod rhywun yn gallu
> cael
> bwyd/diod yn sydyn/ar frys?
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Post
> Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2010 11:11
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: retail catering
>
> Y peth yw, nid dim ond takeaways yw'r maes hwn, mae'n ymddangos.
> Mae'n
> cynnwys "coffee and fast food chains and even branded restaurants
> and pubs",
> h.y. Starbucks, Caffe Nero, Costa Coffee, McDonalds, KFC, Harvester
> ac ati,
> lle mae pobl yn eistedd wrth fwrdd yn y siop, y bwyty neu'r dafarn
> i fwyta.
>
> Ydyn nhw'n golygu 'arlwyo i'r cyhoedd' h.y. yn hytrach nag arlwyo mewn
> ffreuturau ysgolion, colegau, ffatrïoedd ac ati?
>
> Claire
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Siân
> Roberts
> Sent: 07 April 2010 11:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: retail catering
>
> Diolch Melanie. Wnes i feddwl am hynna - ond mae bwydydd parod yn
> gallu golygu "ready meals" sydd ddim, mewn gwirionedd, yn barod i'w
> bwyta.
> Fe gawson ni drafodaeth ar hyn o dan "fast food" a "take-away food"
> rai blynyddoedd yn ôl ond dw i ddim yn meddwl bod cytundeb bryd hynny.
> Soniwyd am "cludfwyd" ond dw i ddim yn hoff ohono - mae'n swnio fel
> gair gwneud ac yn annhebygol o gael ei ddefnyddio gan bobl.
> Soniwyd am "pryd stryd" hefyd. Dydi hwnnw ddim yn swnio cweit mor
> ffuantus â "blwch llwch" a "ffôn lôn" - ond dw i ddim yn meddwl ei
> fod yn hollol addas ar gyfer "retail catering"
>
>
> On 7 Ebrill 2010, at 10:34, Melanie Davies wrote:
>
>> Gwerthwyr bwyd parod?
>>
>> --------------------------------------------------
>> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, April 07, 2010 10:26 AM
>> To: <[log in to unmask]>
>> Subject: retail catering
>>
>>> "Well, the term "retail catering" might sound a bit confusing, but
>>> it needn't be. Broadly speaking, it covers a lot of today's
>>> popular, grab-and-go or affordable concepts, including sandwich,
>>> coffee and fast food chains and even branded restaurants and pubs.
>>> You'll find them everywhere from airports and motorway service
>>> stations to shopping malls, leisure centres and even high streets
>>> - in fact, anywhere with a large volume of customers."
>>>
>>> O diar!
>>> "mannau gwerthu bwyd cario allan" ?
|