Mae hon yn broblem sy'n codi'n gyffredinol wrth gyfieithu - sef y
gwahaniaeth rhwng ystyr rhywbeth i arbenigwr yn y maes sy'n deall y cefndir
ac ystyr y geiriau i ieithydd. Mae 'dan risg' yn amlwg yn golygu rhywbeth
penodol i bobl sy'n ymwneud â chyfrifiaduron. Ond taswn i'n gweld fy
nghyfrifiadur i'n dangos neges 'dan risg', faswn i ddim yn ei ddefnyddio gan
feddwl bod rhywbeth mawr o'i le.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Tomos
Anfonwyd/Sent: 16 Mawrth 2010 13:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: at risk
> O ran ystyr, does dim perygl fel y cyfryw ac, er y gallai problem / risg
godi, mae'n bosib iawn na fydd y system yn annibynadwy o gwbl.
Ydi hi'n bosib defnyddio ymadrodd hirach e.g. "gwasanaeth (sy'n
rhedeg) heb y sicrwydd arferol"? Ond mae 'dan risg' yn fyr ac
yn esbonio'r sefyllfa heb or-ddweud.
|