Gwych. Mae ar yr ochr Cymraeg yn unig - dylai fod ar y ddwy ochr.
Rwy'n eithaf hoff o "Papur Gwyrth y Comisiwn Europeaidd" ar gyfer "EU Green Paper".
Roedd rhaid i fi ddweud wrthynt felly bydd yn newid cyn bo hir rwy'n siwr.
On Mon 29/03/10 22:51 , Eleri James [log in to unmask] sent:
> Aha! Wedi dod o hyd i'r geirfa trwy ddewis Cymraeg / Amdanon ni /
> Llyfrgell / Amrywiol / Geirfa Tŷ'r Cwmnïau.
>
> Eleri
>
> --- On MON, 29/3/10, NEIL SHADRACH __ wrote:
>
> From: Neil Shadrach
> Subject: Re: IFRS - International Financial Reporting Standards
> To: [log in to unmask]
> Date: Monday, 29 March, 2010, 21:16
>
> Eleri James :
> >Rwyf wedi cael cyfle i edrych ar wefan Tŷ'r Cwmnïau nawr. Nid y
> 'Glossary' y mae cysylltiad iddo gan Ann isod oedd ar fy meddwl i,
> ond yn hytrach y geirfa helaeth hwn:
> >
> >http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments/EngWelshGloss
> ary.pdf[1]
> >
> >Hen gysylltiad yw hwn wedi ei rhoi ar gadw ar fy nghyfrifiadur.
> >Ni lwyddais i ddod o hyd i'r geirfa wrth we-lywio ar wefan Tŷ'r
> Cwmnïau.
> >Dwi ddim yn siwr pam ei bod hi mor annodd dod o hyd i'r geirfa.
>
> Rwy wedi holi rhywun yno sy'n ymwneud a'u gwefan. Byddai wedi disgwyl
> ei gweld trwy ddewis Cymraeg / Amdanon ni / Llyfrgell / Dogfennau
> Polisi. Mae hynny'n arwain at
> http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments_W.shtml
> [2] ond dyw'r ddogfen ddim ar y rhestr.
>
> > Mae'n dal i fod rhaid atodi cyfieithiad 'swyddogol' Saesneg wrth
> gwt cyfrifon Cymraeg, rwyn credu.
> Rwy'n meddwl bod rhaid cael fersiwn Saesneg bob tro.
>
> > Ond mae modd llanw rhai dogfennau eraill yn Gymraeg ar eu gwefan
> erbyn hyn.
> Mae'r rhyngwyneb ar gael yn Saesneg a Chymraeg ers canol 2008 ond nid
> yw hynny yn newid iaith y ddogfen swyddogol sy'n cael ei chreu. Y
> dewis o ffurflen sy'n penderfynnu hynny. Er enghraifft wrth benodi
> swyddog newydd byddai dewis ffurflen 'AP01' yn creu dogfen uniaith
> Saesneg tra byddai dewis 'AP01 c' yn creu dogfen ddwyieithog. Mae
> modd llenwi'r ddwy trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r
> dogfennau dwyieithog ar gael i gwmniau wedi eu cofrestru yng Nghymru
> yn unig. Mae'r dewis i iaith y rhyngwyneb ar gael i bawb.
>
>
> Links:
> ------
> [1]
> http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments/EngWelshGlossa
> ry.pdf[2]
> http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/policyDocuments_W.shtml
>
>
|