Fel y dwedodd Tegau yn ei neges, fersiwn beta o'r wefan yw hon.
Mae llu o nodweddion ychwanegol eisoes wedi'u paratoi ar gyfer y lansio swyddogol ar Fawrth y 15fed. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cael eu treialu'n fewnol tra bo'r ddogfennaeth ar eu cyfer yn cael ei ysgrifennu. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys:
* nodweddion chwilio uwch, gan gynnwys pennu iaith y chwilio (yn hytrach na'i ddyfalu)
* y modd i osod y porth termau mewn gwefannau allanol
* dull o chwilio drwy linyn ymholiad yng nghyfeiriad y wefan e.e. http://termau.org/porth/?search=warthus
* dolenni uniongyrchol o enw'r geiriadur yn y canlyniadau i fanylion y geiriadur hwnnw
* dolenni at adnoddau eraill fel Cysill Ar-lein
* ategyn blwch chwilio ar gyfer porwyr
* gallu llwytho'r geiriaduron newydd sydd ar y Porth Termau i lawr i Cysgeir
Fel y gwelwch chi, mae hyn yn golygu yn anffodus fod Dafydd wedi dyblygu gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau gennym yn fewnol. Yn y dyfodol, bydden ni'n croesawu i unrhyw un sydd â sylwadau neu'r awydd i ddatblygu adnoddau pellach ar ben y Porth Termau i gysylltu â ni'n uniongyrchol er mwyn osgoi gwneud gwaith ofer.
Datblygwyd y wefan gan ddefnyddio AJAX yn fwriadol gan ei fod yn rhan o fframwaith a fydd yn caniatáu i ni wneud defnydd soffistigedig o'r data yn y dyfodol. Un o ganlyniadau cyntaf hyn yw y bydd modd rhannu'r geiriaduron termau yn hwylus â gwefannau eraill. Mae fersiwn gynnar o hyn i'w gweld ar wefan Llên Natur (http://llennatur.com/cy/node/1), ac rydym wrthi'n cydweithio gydag ysgolion Cymraeg i osod geiriaduron termau ac adnoddau iaith eraill o fewn eu gwefannau hwythau.
Byddwn yn parhau i ychwanegu nodweddion a chynnwys i'r Porth Termau yn y dyfodol, ond oherwydd mai tîm bach ydyn ni, a'n bod ni'n datblygu adnoddau rhad ac am ddim ar ychydig gyllid, bydd y gwelliannau hyn yn cael eu hychwanegu fesul tipyn yn hytrach nag fel un talp.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych ymholiadau pellach.
Cofion,
Gruff
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 26 February 2010 19:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Porth Termau Cenedlaethol Cymru
>
> Dyma nodyn bach i'ch hysbysebu bod fersiwn beta o wefan Porth Termau
> Cenedlaethol Cymru nawr ar gael i chi ei defnyddio ar
> www.termau.org/porth
Mae'n biti mawr fod y wefan yma wedi ei greu mewn ffurf 'or-glyfar'
ac anhygyrch wrth ddefnyddio AJAX.
Mae hyn yn golygu er enghraifft na alla'i greu ategyn chwilio
yn Firefox er mwyn chwilio am derm yn syth o'r porwr.
Fe ddylai adnodd o'r fath yma fod yn gwbl hygyrch ac yn 'agored'
fel y gall unrhywun arall ei ddefnyddio (ac yn bwysicach efallai,
gallu gwneud dolen uniongyrchol i derm).
Os yw e wedi greu fel yma yn fwriadol, mae hynny'n warthus ond dwi'n
amau ei fod yn deillio o anwybodaeth y datblygwr.
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|