Neu maen nhw wedi dewis 'pay as you go' am ei fod yn fwy camarweiniol - eitha diegwyddor a dweud y gwir - mae pres y defnyddiwr ym manc y cwmni ffôn cyn iddo fo ddefnyddio'r gwasanaeth!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Tegid
Anfonwyd/Sent: 24 Chwefror 2010 10:47
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB: Pay as you go
Mi fydd yn rhaid i chi faddau i mi os oes rhywun wedi cynnig hwn yn barod, ond beth fyddai eich barn chi ar "talu wrth alw"?
Wedi dweud hynny, mae neges ddiweddaraf David (a gyrhaeddodd fel roeddwn i'n teipio) yn swnio'n rhesymol iawn i mi.
Cofion gorau,
Huw
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Andrews,Tegau
Anfonwyd/Sent: 24 February 2010 09:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
Dwi'n cytuno gydag Eluned - faswn i'n dweud nad yw 'pre pay' a 'pay as you go' yr un peth. Fe allwch chi dalu o flaen llaw am docyn cyngerdd, ond dydych chi ddim yn talu wrth i chi ddefnyddio'ch sedd. Gyda ffôn, rydych chi'n cael credyd, a dim ond wrth i chi ddefnyddio'r ffôn y mae'r credyd yn cael ei wario.
Mae'r ymadrodd 'pay per use' yn bodoli yn Saesneg, ond synnwn i ddim bod pobl y byd ffonau symudol wedi dewis 'pay as you go' achos ei fod e'n fwy bachog.
Tegau
Eluned Mai wrote:
> Er eich bod yn prynu'r credyd o flaen llaw, dydach chi ond yn talu hyn
> a hyn am yr alwad allan o'r credyd ar y pryd, wrth ei ddefnyddio.
>
> Eluned
>
> 2010/2/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> "Talu yn ôl defnydd" te? Achos y prif gysyniad ydi mai dim ond am y
>> defnydd rydych chi'n ei wneud ohono rydych chi'n talu.
>>
>> Ond o Wglo mae'n ymddangos mai "talu wrth ddefnyddio" (2,100
>> enghraifft) a "talu wrth fynd" (1,600) sy'n fwyaf cyffredin.
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Carolyn
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Tuesday, February 23, 2010 9:46 AM
>> Subject: ATB: Pay as you go
>>
>> Mae 'Talu ar y pryd' yn swnio'n well ond dw i ddim yn hollol siŵr ydy
>> hynny'n cyfleu'r ystyr - e.e. efo ffôn 'pay as you go' , dach chi'n
>> prynu'r credit ymlaen llaw a dweud y gwir - felly dydy'r Saesneg ddim
>> yn cyfleu'r peth yn union chwaith. Talu cyn defnyddio mae rhywun mewn
>> gwirionedd yn hytrach na thalu bil ddiwedd y mis.
>>
>> Carolyn
>>
>>
>>
>> ________________________________
>>
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
>> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
>> Megan Tomos
>> Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 06:54
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
>>
>>
>>
>> Gwell o lawer.
>>
>> Megan
>>
>>> Date: Mon, 22 Feb 2010 22:21:18 +0000
>>> From: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: Pay as you go
>>> To: [log in to unmask]
>>>
>>> Neu 'Talu ar y pryd'?
>>>
>>> 2010/2/21 Megan Tomos <[log in to unmask]>:
>>>> Neu 'Talu ar y tro' neu 'Talu bob tro' ?
>>>>
>>>> Megan
>>>>
>>>>> Date: Sun, 21 Feb 2010 17:53:35 +0000
>>>>> From: [log in to unmask]
>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>
>>>>> Dwi'n cael dim trafferth yn defnyddio 'defnyddio'. Ond os am
>>>>> rywbeth byrrach, beth am rywbeth fatha 'talu fesul tro'?
>>>>>
>>>>> Eluned
>>>>>
>>>>> 2010/2/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>>>>> Mae 'talu wrth fynd' yn dipyn llai o lond ceg! Pam arall mae
>>>>>> pobol yn deud 'iwsio' yn lle 'defnyddio'?
>>>>>>
>>>>>> ----- Original Message -----
>>>>>> From: CATRIN ALUN
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Sent: Wednesday, February 17, 2010 11:16 AM
>>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>>> Cytuno Claire - diolch!
>>>>>> ________________________________
>>>>>> From: Claire Richards <[log in to unmask]>
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Sent: Wednesday, 17 February, 2010 10:50:21
>>>>>> Subject: Re: Pay as you go
>>>>>>
>>>>>> Mae ‘talu wrth ddefnyddio’ i’w weld hyd yn oed yn fwy poblogaidd.
>>>>>> Ac yn gwneud mwy o synnwyr, efallai, wrth sôn am ffonau ac ati?
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Claire
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
>>>>>> Behalf Of CATRIN ALUN
>>>>>> Sent: 17 February 2010 10:40
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Subject: Pay as you go[Spam score: 9%][Scanned]
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Wedi edrych yn ol drwy'r archif, a dwi ddim yn credu i ni ddod i
>>>>>> unrhyw benderfyniad ar hwn y tro dwytha.
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Ai 'talu wrth fynd' sy'n cael ei ddefnyddio bellach?
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>>
>>>>>> Catrin
>>>> ________________________________
>>>> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
>> ________________________________
>>
>> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
--
Tegau Andrews
Terminolegydd
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Safle'r Normal
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd LL57 2PX
**********
Terminologist
Language Technologies Unit
Canolfan Bedwyr
Normal Site
Bangor University
Bangor
Gwynedd LL57 2PX
Ffôn/ Telephone: 01248 388618
E-bost/ E-mail: [log in to unmask]
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk
|