O na! Erchyll!
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
Sent: 09 Chwefror 2010 17:03
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB/RE: ATB/RE: Seisnig
Yr ymadroddiad sy'n fy nharo i'n rhyfedd yn hytrach na'r teitlau swyddogol
hyn yw pethau fel 'dogfennau iaith Gymraeg' ac ati sy'n digwydd yn amlach
erbyn hyn.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhys Osian
(AcadReg)
Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2010 16:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB/RE: ATB/RE: Seisnig
Un ffordd o oresgyn eich pryder yn y paragraff olaf, David, yw defnyddio'r
fannod; dw i wedi gweld pobl yn defnyddio "Cynllun y Gymraeg", "Swyddog y
Gymraeg" ac ati, a byddwn i'n cytuno gyda Carolyn nad oes angen yr "iaith"
fel arfer, er fy mod i'n euog o'i ddefnyddio'n aml mae'n siwr... Ond mae'r
peth yn gymhlethach na hynny wrth gwrs gan ein bod yn tueddu i hepgor y gair
Cymraeg wrth ei ddweud: Bwrdd yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Swyddog Iaith,
achos mae'n amlwg pa iaith yw hi yn un peth, ond falle hefyd bod ein
clustiau'n gwybod bod dweud "yr iaith" a "Cymraeg" gyda'i gilydd yn
ddiangen?
Ta waeth, dw i'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Berwyn yn gynharach -- mae
"artist Cymreig" ac ati yn fy nharo i'n od bob tro y bydda i'n ei ddarllen.
I fi, pwysleisio Cymreigrwydd rhywun fyddwch chi wrth ddweud eu bod yn
Gymreig, nid dweud o ble maen nhw'n dod, sy'n wahanol i "Welsh" yn Saesneg.
Osian
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David
Bullock
Sent: 09 Chwefror 2010 15:53
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Seisnig
Ac eto i gyd, ambell waith mae cynnwys y gair 'iaith' yn *swnio* yn well o
leia: 'Cymdeithas y Gymraeg' neu 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg'?!
Ac weithiau, mae'n teimlo fe pe bai'n rhaid ei gael e, er mwyn gwahaniaethu
rhwng ystyr ymadroddion tebyg:
Dwi'n credu y gallai 'cynllun Cymraeg' olygu cynllun sydd wedi'i lunio yn
Gymraeg, ond dyw e ddim yn dweud wrthoch chi mai cynllun sy'n ymwneud â'r
iaith yw e; ond mae 'cynllun iaith Gymraeg' yn gadael ichi wybod mai'r iaith
sy dan sylw yn y cynllun.
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn
Sent: 09 Chwefror 2010 15:25
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Seisnig
Rhywbeth arall yn yr un maes yw defnyddio 'iaith Gymraeg' i gyfieithu 'Welsh
language' Dw i ddim yn gweld bod angen 'iaith' yn Gymraeg - mae Cymraeg yn
golygu'r iaith tydi? Yr unig reswm y defnyddir 'language' yn Saesneg yw er
mwyn gwahaniaethu rhwng 'Cymreig' a 'Cymraeg'.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 09 Chwefror 2010 15:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Seisnig
Diolch - ddois i ar draws rhywbeth yn sôn am fwydydd Cymreig yn
ddiweddar - ond doedden nhw ddim yn Gymreig - dim ond eu bod wedi'u
tyfu/prosesu yng Nghymru.
Mae hynna'n help
On 9 Chwef 2010, at 11:49, D.Prys wrote:
> Cefais gais yn ddiweddar i drafod yr ansoddair 'Seisnig' . Y
> cwestiwn oedd "ydy e'n iawn defnyddio'r ansoddair 'Seisnig' i
> ddynodi pobl e.e. cyfansoddwr Seisnig, actor Seisnig, ffotograffydd
> Seisnig neu oes rhaid i ni ddefnyddio 'cyfansoddwr o Loegr' ac ati?"
>
> Dyma'r ateb a roddais (rhag ofn iddo fod o ddiddordeb i aelodau'r
> cylch):
>
> "Darllen y gosodiad ar ddiwedd llyfr Gwen Pritchard Jones Dygwyl
> Eneidiau ei bod hi wedi seilio'r prif gymeriad ar 'filwr Albanaidd'
> wnaeth i mi benderfynu'n derfynol mai cyfieithiad i'r Gymraeg oedd
> rhannau (o leiaf) o'r nofel honno. 'Milwr o'r Alban' neu 'milwr o
> Albanwr' fyddai'r disgrifiad 'naturiol' yn Gymraeg. Byddwn i'n
> dadlau, felly, na ddylid defnyddio 'Seisnig' ond i gyfeirio at
> rhywbeth cynhenid Seisnig.
>
> "Yng Ngeiriadur yr Academi, cewch chi 'an English poet - bardd
> Saesneg, (if an Englishman) bardd o Sais'. Efallai y byddai hi
> wedi bod yn gliriach petai'r cofnod wedi manylu ymhellach ac wedi
> dweud 'an English-language poet' o flaen 'bardd Saesneg'. Gall
> bardd Saesneg fod yn Gymro, yn Wyddel, yn Sais (wrth gwrs) neu
> berthyn i unrhyw genedl dan haul.
>
> "Ystyr 'cyfansoddwr Seisnig', 'actor Seisnig' a 'ffotograffydd
> Seisnig', felly, yw un sy'n cyfansoddi, yn actio neu'n tynnu
> ffotgraffau mewn dull Seisnig, ac nid Sais neu Saesnes o
> angenrheidrwydd. Gwell dweud 'y cyfansoddwr o Sais' neu 'y Sais o
> gyfansoddwr' neu 'y cyfansoddwr o Loegr' (ond rhaid cofio y gallai
> 'cyfansoddwr o Loegr' beidio â bod yn Sais o waed coch cyfan)."
>
> Berwyn
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
>
> <eds017.vcf>
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.733 / Virus Database: 271.1.1/2676 - Release Date: 02/08/10
19:35:00
|