A dyma hwpo un arall mewn: beth yw'r farn am "dalu ar iws" gan ddilyn patrwm
rhai gweithwyrs dan ddaear oedd yn cael eu "talu ar dasg" (yn wahanol i'r
rhai gafodd eu "talu ar gontract" neu "ar hur")?
O'i blaid: mae'n fyr, mae'n disgrifio be sy'n digwydd, y gallwch ddychmygu y
byddai pobl yn ei ddweud.
Yn erbyn: y gair "iws", na fyddwn i'n ei ddefnyddio fel rheol, ond gan fod y
priod-dull "at iws gwlad" wedi cael sêl bendith 'Idiomau Cymraeg' R.E.Jones,
efallai fod modd cyfiawnhau iws o dan rai amgylchiadau?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned Mai
Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 21:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
Er eich bod yn prynu'r credyd o flaen llaw, dydach chi ond yn talu hyn a hyn
am yr alwad allan o'r credyd ar y pryd, wrth ei ddefnyddio.
Eluned
2010/2/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> "Talu yn ôl defnydd" te? Achos y prif gysyniad ydi mai dim ond am y
> defnydd rydych chi'n ei wneud ohono rydych chi'n talu.
>
> Ond o Wglo mae'n ymddangos mai "talu wrth ddefnyddio" (2,100
> enghraifft) a "talu wrth fynd" (1,600) sy'n fwyaf cyffredin.
>
> ----- Original Message -----
> From: Carolyn
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, February 23, 2010 9:46 AM
> Subject: ATB: Pay as you go
>
> Mae 'Talu ar y pryd' yn swnio'n well ond dw i ddim yn hollol siwr ydy
> hynny'n cyfleu'r ystyr - e.e. efo ffôn 'pay as you go' , dach chi'n
> prynu'r credit ymlaen llaw a dweud y gwir - felly dydy'r Saesneg ddim
> yn cyfleu'r peth yn union chwaith. Talu cyn defnyddio mae rhywun mewn
> gwirionedd yn hytrach na thalu bil ddiwedd y mis.
>
> Carolyn
>
>
>
> ________________________________
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Megan
> Tomos
> Anfonwyd/Sent: 23 Chwefror 2010 06:54
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: Pay as you go
>
>
>
> Gwell o lawer.
>
> Megan
>
>> Date: Mon, 22 Feb 2010 22:21:18 +0000
>> From: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Pay as you go
>> To: [log in to unmask]
>>
>> Neu 'Talu ar y pryd'?
>>
>> 2010/2/21 Megan Tomos <[log in to unmask]>:
>> > Neu 'Talu ar y tro' neu 'Talu bob tro' ?
>> >
>> > Megan
>> >
>> >> Date: Sun, 21 Feb 2010 17:53:35 +0000
>> >> From: [log in to unmask]
>> >> Subject: Re: Pay as you go
>> >> To: [log in to unmask]
>> >>
>> >> Dwi'n cael dim trafferth yn defnyddio 'defnyddio'. Ond os am
>> >> rywbeth byrrach, beth am rywbeth fatha 'talu fesul tro'?
>> >>
>> >> Eluned
>> >>
>> >> 2010/2/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> >> > Mae 'talu wrth fynd' yn dipyn llai o lond ceg! Pam arall mae
>> >> > pobol yn deud 'iwsio' yn lle 'defnyddio'?
>> >> >
>> >> > ----- Original Message -----
>> >> > From: CATRIN ALUN
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Sent: Wednesday, February 17, 2010 11:16 AM
>> >> > Subject: Re: Pay as you go
>> >> > Cytuno Claire - diolch!
>> >> > ________________________________
>> >> > From: Claire Richards <[log in to unmask]>
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Sent: Wednesday, 17 February, 2010 10:50:21
>> >> > Subject: Re: Pay as you go
>> >> >
>> >> > Mae ‘talu wrth ddefnyddio’ i’w weld hyd yn oed yn fwy
>> >> > poblogaidd. Ac yn gwneud mwy o synnwyr, efallai, wrth sôn am
>> >> > ffonau ac ati?
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Claire
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> >> > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar
>> >> > ran/On Behalf Of CATRIN ALUN
>> >> > Sent: 17 February 2010 10:40
>> >> > To: [log in to unmask]
>> >> > Subject: Pay as you go[Spam score: 9%][Scanned]
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Wedi edrych yn ol drwy'r archif, a dwi ddim yn credu i ni ddod i
>> >> > unrhyw benderfyniad ar hwn y tro dwytha.
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Ai 'talu wrth fynd' sy'n cael ei ddefnyddio bellach?
>> >> >
>> >> >
>> >> >
>> >> > Catrin
>> >
>> > ________________________________
>> > Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
>
> ________________________________
>
> Not got a Hotmail account? Sign-up now - Free
|