Cyd-digwyddiad bod chwilio am gerddi y bore 'ma, a finnau newydd ddod o hyd
i'r gerdd y soniais i amdani wythnosau'n ol yn y neges isod. Nid
cyfieithiad o "What is this life if full of care", ond yr un syniad, wedi'i
fynegi'n hardd iawn.
Ann
Petaen ni'n rhedeg
Petaen ni'n rhedeg o hyd,
Faint welen ni ar fywyd?
Hynny bach ohono sy
Rhwng cael ein deffro a chysgu.
Rhwng bod y dail yn dod
A bod y plant yn gwneud cychod,
A rhwng bod eu cychod ar afon
A'u bod nhw ar yr eigion.
Rhwng Ebrill a hanner Mehefin,
Rhwng y chwedl a'r chwerthin,
Rhwng bod y mwyar yn ddu
A'u bod nhw wedi'u bachu.
Rhwng bwrdd llong y freuddwyd
A'r ddesg yn y swyddfa lwyd.
Rhwng dwi'n dy garu di
A chawod oer y conffeti.
Rhwng bod ein gwlad yn rhydd
A'n hiaith yn mynd i'w gilydd.
Rhwng agor ein llygaid a'u cau,
Rhwng y wledd a'r angladdau,
Rhwng bod Heilyn yn gweld y ddôr
Ac yn codi i'w hagor.
Twm Morys
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 12 January 2010 22:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cerdd W H Davies
Mae rhaid bod 'na un, achos dyfynnir y ddwy linell hon mewn dogfen ar y we -
ond ni welaf rhagor yn unman:
" Beth yw ein byw ond baich o hyd,
Os na chawn hoe am drem ar fyd?"
Mae gan Twm Morys gerdd hyfryd sydd yn rhywbeth tebyg mewn llyfryn i blant
(darnau adrodd efallai?) ond ni allaf roi fy llaw arno.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 12 January 2010 16:50
To: [log in to unmask]
Subject: Cerdd W H Davies
Oes rhywun yn gwybod am gyfieithiad safonol o gerdd W H Davies- What is
this life? os gwelwch yn dda
Diolch
Garry
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.137/2617 - Release Date: 01/12/10
19:35:00
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.137/2617 - Release Date: 01/12/10
19:35:00
|