'Dw i ddim yn meddwl y gellir dweud "gelwir hyn yn 'X'" os mai chi sydd
newydd ddyfeisio'r term (er fy mod i'n amau bod y wasg yn gwneud hyn yn aml
- "X who people are calling the new Y"). Byddai'n rhaid dweud rhywbeth fel
"Yn Saesneg, gelwir hyn yn 'kindling effect' (eich term newydd chi mewn
cromfachau)."
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 16 January 2010 14:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: kindling effect
Rhyw daflu i'r pair ydw i yma: fel enw a fuasa "enynoldeb" yn
gweithio? - "Gelwir hyn yn 'enynoldeb'". Roeddwn am ddweud 'effaith
enynnol' i ddechrau ond wedi meddwl, mi fuasai'n iawn petai'r frawddeg
yn mynd: "This has a kindling effect" - "Mae hyn yn creu effaith
enynnol". Ond gan fod angen enw, hwn ddaeth i'm meddwl. Mae gen i ryw
deimlad 'mod i'n malu awyr ond dwi am ei anfon beth bynnag, rhag ofn
iddo sbarduno neu "ennyn" syniad callach yn rhywun arall.
Eluned
2010/1/13 Roberts, Nia <[log in to unmask]>:
> Roedd y ddihareb honno wedi dod i’m meddwl i! Yn betrus, beth am y gair
> ‘ennyn’?
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Megan Tomos
> Sent: 13 January 2010 16:08
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: kindling effect
>
>
>
> Mae'n swnio fel petai'n awgrymu mai "hawdd" neu hyd yn oed "haws cynnau
tân
> ar hen aelwyd" a defnyddio dihareb sy'n perthyn i fyd arall.
>
> Megan
>
>
> ________________________________
>
> Date: Wed, 13 Jan 2010 09:58:25 -0500
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: kindling effect
> To: [log in to unmask]
>
>
> Er nad wyf yn deall fawr ddim amdano, credaf bod y wefan yma'n dangos yn
> well na dim y math o beth ydi o - yn fwy na'r diffiniad a roddwyd
>
>
>
> http://bipolar.about.com/cs/brainchemistry/a/0009_kindling1.htm
>
>
>
> Alwyn
>
>
>
> ________________________________
>
> Got a cool Hotmail story? Tell us now
>
> ******************************************************************
>
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and
intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address:
>
> [log in to unmask]
>
>
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>
> [log in to unmask]
>
> *******************************************************************
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 9.0.725 / Virus Database: 270.14.145/2626 - Release Date: 01/16/10
07:35:00
|