Gaf fi ofyn pam nad 'rhoi cyngor am / ynghylch' yn hytrach na 'cynghori
ar/ynghylch' etc?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of D.Prys
Sent: 04 January 2010 16:43
To: [log in to unmask]
Subject: treiglo ar ôl colon
Neges oddi wrth Berwyn:
Tybed a allet ti anfon y neges isod i welsh-termau-cymraeg ar fy rhan i?
Cefais gais gynnau fach i gynnig cyngor ynghylch treiglo ar ôl colon.
Dyma'r cyngor a roddais:
Cwestiwn 1. Sut fyddet ti'n treiglo mewn cymal fel 'Rydyn ni'n cynghori
ar: ... -- y peth a'r peth.'?
Ateb: Yn y lle cyntaf, fyddwn i ddim yn rhoi 'ar' ar ôl 'cynghori' am
mai cyfieithiad slafaidd yw hwnnw o 'to advise on'. Gwell, a
Chymreiciach i mi, yw dweud 'cynghori ynghylch'. (O wneud hynny, bydd
problem treiglo ar ôl y colon yn diflannu!)
Yn ail, ein trefn yn y Swyddfa Gymreig slawer dydd oedd treiglo gair
cynta'r cymal cynta a pheidio â threiglo unrhyw gymal dilynol:
'... drwy:
- gymryd camau pendant i ...
- gweithredu polisi ...
Bydd rhai cyfieithwyr yn treiglo'r cymalau dilynol hefyd ond - i mi - po
bellaf yr eir oddi wrth yr arddodiad cychwynnol, ffolaf yn y byd yw'r
arfer o dreiglo. Aiff yr arfer i'r gors yn llwyr os rhifir y cymalau:
24. dreiglo pan nad oes angen
(neu: xxiv. dreiglo pan nad oes angen ...)
Erbyn hyn, gwnaf fy ngorau glas i osgoi treiglo o gwbl drwy wneud hyn:
Ie, dyna chi, drwy ychwanegu 'wneud hyn' ar ôl yr arddodiad. Deimloch
chi fod y 'drwy wneud hyn' yn chwithig? Go brin. Gan nad cyfieithu
oeddwn i, feddylioch chi ddim fy mod i'n mynd yn groes i drefn y
'grweiddiol' Saesneg.
Cwestiwn 2: Beth am yr 'a' ar ddiwedd y cymal olaf ond un mewn rhes? Fel yn:
'- ... y gwrthrych; a
- dreiglo neu - threiglo ... ??
Ateb: yr ateb symlaf i mi yw cynnwys yr 'a' yn y cymal olaf:
'- ... y gwrthrych;
- a threiglo ...
Nid pawb sy'n cyd-fynd â'r drefn honno, ond os darllenwch chi'r geiriau
mae'r ystyr yn berffaith amlwg a does dim byd yn amharu ar lyfnder y
dweud. (Byddwn i'n derbyn y gall edrych ychydig yn od ar bapur, ond bid
a fo am hynny! Dyw peidio â dilyn trefn y Saesneg ddim bob amser yn fai.)
Blwyddyn Newydd Dda!
Berwyn
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|