Sian Roberts wrote:
> Holais y gŵr neithiwr beth fyddai e'n ei gynnig am "Non-recyclable" a, gan nad yw'n
> gyfieithydd a'i fod yn gallu 'meddwl y tu allan i'r bocs', fe awgrymodd 'Sbwriel'.
>
> Fe wnes i gynnig hyn i'r cwsmer ac roedd hi'n dweud bod llun bin sbwriel ar y bin 'non-
> recyclable' ac y gallai weithio. Mae hi'n mynd i holi.
>
> Cefais neges uniongyrchol wedyn gan aelod o W-T-C yn dweud bod Asiantaeth yr
> Amgylchedd yn defnyddio "Anailgylchion" am "Non-recyclable" ac "Ailgylchion cymysg"
> am "Mixed recyclables".
>
> Mae hynny'n swnio'n rhyfedd i mi!
> Dw i ddim yn siwr ydi "ailgylchion" yn cyfleu pethau sy'n mynd i gael eu hailgylchu.
> Mae'n swnio'n debycach i bethau sydd wedi cael eu hailgylchu i mi."
>
> Mae "anailgylchion" i'w weld yn beth rhyfedd i'w roi ar fin (bin) mewn gweithle.
Ches i ddim cyfle i ateb ddoe, Sian, ond roeddwn i'n meddwl bod dy
gynigion di yn ddigon derbyniol. Ond mae 'sbwriel' yn syniad da hefyd.
Hollol syml. Mae'n siwr nad ydi 'anailgylchion' yn fwy erchyll na
'non-recyclables' ond am ein bod yn byw mewn byd dwyieithog rhaid i ni
gael rhywbeth hawdd a dealladwy'n syth yn Gymraeg neu bydd pobl yn
anwybyddu'r Gymraeg ac yn edrych yn syth ar y Saesneg.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|