Mae hi-res yn yr archifau a "cydraniad uchel" oedd y consensws bryd hynny
hefyd (yn 2003)
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 02, 2009 12:37 PM
Subject: Re: hi-res
> On Dec 02, 2009, Symons, David wrote:
>> Ond i mi, mae 'eglurdeb' yn golygu 'definition', sydd, o ran delwedd
>> ddigidol boed ar set deledu neu lun camera, yn gyfystyr ? 'resolution'.
>
> Mae S4C yn defnyddio 'manylder' am resolution ond hefyd am
> definition. Yn y byd digidol, mae lluniau yn cael ei cywasgu,
> felly does dim perthynas rhwng resolution a ansawdd y llun.
>
> Fe allwch chi gael llun HD sydd yn aneglur a 'heb fanylder' oherwydd
> ei fod wedi gywasgu yn ormodol.
>
> Mae manylder i fi yn awgrymu faint o 'ddiffiniad' sydd yn y llun -
> faint o fanylion sydd i'w weld. A mae eglurdeb yn eitha amlwg - pa
> mor eglur yw'r llun?
>
> Mae'r ddau yn dermau ansoddol - mae eglurdeb a manylder llun yn
> dibynnu ar nifer o ffactorau - pa mor dda yw'ch golwg, a be sy'n
> dderbyniol i chi, yn ogystal a safonau technegol. Mae cydraniad felly
> yn ystyr fwy technegol sy'n disgrifio union faint o bicseli sydd mewn
> delwedd. Mi fydden i wedi dweud bod 'rhaniad' efallai yn well am ei
> fod yn eitha clir yn disgrifio faint o rannau (llinellau) sydd mewn
> delwedd. Ond mae cydraniad allan yna yn barod mewn nifer o lefydd..
>
|