Tim
Wyt ti wedi holi pwy oedd yr 'awdurdodau' hyn sy'n cymeradwyo
cyhoeddi'r rhain yn uniaith Saesneg? Byddai'n ddiddorol cael gwybod a
oedden nhw wedi trafod y pwynt gyda chyfieithwyr, gyda'r Gymdeithas,
gydag adran gyfieithu'r Cynulliad ac ati.
Muiris
2009/12/1 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
> Wedi baglu ar draws hynd rwy ddamwain a hap - gobeithio y cawn glywed
> rhagor!
>
> 'Mae manylion am y dangosyddion perfformiad newydd ar gael yn Saesneg yn
> unig. Ein nod oedd rhoi manylion dwyieithog llawn drwy gyfieithu’r manylion
> i gyd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau ein cyfieithwyr, mae wedi
> dod i’r amlwg fod angen rhagor o waith i adlewyrchu’r manylion sydd eu
> hangen yn y dangosyddion. Mae angen llawer o iaith dechnegol a thermau
> penodol ar gyfer y gwasanaethau o dan sylw i ddiffinio’r mesurau’n llawn.
> Oni bai fod y Gymraeg yn adlewyrchu’r Saesneg yn gywir, rydyn ni’n bryderus
> y byddwn ni’n creu amwysedd er gwaethaf ein gwaith caled i greu eglurder.
>
>
> I gywiro’r sefyllfa, rydyn ni’n bwriadu cynnal trafodaethau ag unigolion
> sy’n gweithio mewn gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg i wneud yn
> siwr fod y DPau Cymraeg yn adlewyrchu gwir ystyr y proffiliau Saesneg.
> Byddwn ni’n ceisio gwneud y gwaith yma unwaith y bydd modd dod â’r bobl
> briodol ynghyd.
>
>
>
> Ar ôl holi barn nifer o awdurdodau, rydyn ni o’r farn ei bod yn bwysicach
> rhoi dangosyddion eglur a diamwys fydd yn cynyddu’r gobaith y bydd
> dangosyddion eu defnyddio mewn modd cyson ledled Cymru.
> '
>
> http://www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/249/ADS05000FinalGuidance2005bi_Oct_05.doc
>
>
>
> Cofion gorau,
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough
> Council
>
>
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
> legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin
> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i
> defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam
> a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
> cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
> berthnasol.
>
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
>
|