Ond ni dyna fy mhroblem! 'Rwy'n cyfieithu O Gymraeg digon gwallus, ac mae
arnaf eisiau gwybod beth yw enwau Saesneg cywir y tri cham y mae'r awdur
gwreiddiol yn cyfeirio atynt fel "eithrio dros dro", "eithrio" ac "eithrio ffurfiol".
Ydw i'n iawn mai "exclusion/suspension/expulsion (sy'n swnio braidd yn hen
ffasiwn i mi)" sy'n iawn, ynteu ydy'r ddau gyntaf yn iawn, a chynnig Tim yn
iawn ar gyfer yr olaf.
Gyda llaw, alla i ddim edrych ar gynnig Tim yr eiliad yma rhag ofn imi golli'r
neges hon yng nghanol ei sgwennu. Er gwaethaf newid f'aelodaeth o W-T-C i
gyfeiriad e-bost arall, 'rwy'n dal i orfod codi'r negeseuon o'r archif, gan na
chefais ddim y bore 'ma trwy'r e-bost ond neges Geraint - 'roeddwn i wedi
dechrau meddwl bod pawb yn f'anwybyddu!
Diolch i bawb am bob ateb!
Ann
On Tue, 3 Nov 2009 09:56:37 -0000, Gorwel Roberts
<[log in to unmask]> wrote:
>Tydi eithrio ddim yn gywir. Exempt yw eithrio nid exclude
>
>
>
> _____
>
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann
Corkett
>Sent: 03 November 2009 09:54
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>Diolch, Geraint, mae hynny'n werth ei nodi. Ond ga i jyst gadarnhau'r hyn
>mae arna i eisiau ei wybod - a ddylai'r awdur wedi defnyddio tri gair
>gwahanol? Ai exclusion > suspension > expulsion yw'r drefn arferol ac a
>ddylwn i ddefnyddio'r tri gair hwnnw i ddynodi'r tri cam, er i'r awdur
>ddefnyddio "eithrio" bob tro? 'Rwy'n amau mai hyn sy'n wir, ond hoffwn gael
>cadarnhad gan bobl sy'n ymwneud a maes addysg yn fwy cyson.
>
>
>
>Llawer o ddiolch,
>
>
>
>Ann
>
> _____
>
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
Lovgreen
>Sent: 02 November 2009 18:08
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>exclusion = eithrio
>
>suspension = atal
>
>expulsion = gwahardd/diarddel
>
>
>
>Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro.
>
>----- Original Message -----
>
>From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
>
>To: [log in to unmask]
>
>Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM
>
>Subject: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>
>
>'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol gynradd. Yn ol y rhain,
>os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y
>pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff
>ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd arall, er iddi
>ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son am "temporary exclusion",
>wedyn "suspension" ac wedyn "expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad
>swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at
>"exclusion"?
>
>
>
>Diolch yn fawr iawn,
>
>
>
>Ann
>
>
>
>
|