Annwyl Osian,
>Tawelwch llethol ... ie.
O'm rhan i, o leiaf, oherwydd fy mod i'n aros sylwadau Cymry Cymraeg
naturiol, cyfieithwyr llawer mwy profiadol na fi; ac oherwydd imi ofni
ail-adrodd pethau 'rwyf wedi'u dweud o'r blaen, ac eisiau amser i gnoi cil
ar holl oblygiadau'r sgwrs.
Yn y cyfamser, gan fod Andrew a finnau wedi bod yn tynnu sylw at "Athro
Arfon", hen gylchgrawn ar gyfer athrawon, dyma ddyfyniad 'rwyf newydd ei
sganio o'r cyflwyniad i eirfa Kate Roberts.:
"Casglwyd yr enghreifftiau hyn o holl lyfrau’r Dr Kate Roberts, ond gwelwyd
eu bod, bron i gyd, yn britho tudalennau “Te yn y Grug," ... dylid eu
cyflwyno i’r plant yn eu cyd-destun priod, (nid fel rhestr, ar gyfrif yn y
byd) gan dynnu eu sylw atynt yn gyson, eu defnyddio yn ein sgwrs a’n trafod
achlysurol gyda’r plant, eu hannog hwythau i’w cofio a’u defnyddio ar lafar
ac mewn ysgrifen, fel y bo iddynt ddod yn rhan fywiol ohonynt ac yn barod at
y galw yng nghyfoeth ystorfa’u cof."
Nid jyst mater o enwau lliwiau yw hyn wrth gwrs. Mae 'na lawer o bethau o
ran iaith - ac o ran ymddygiad hefyd - yr ydym yn eu dysgu i blant trwy'r
hyn 'dyn ni'n eu dweud a'u gwneud ein hunain.
Gan gofio'r pytiau ar enwau lleoedd a gafwyd yn y Western Mail ar un adeg,
awgrymais sawl tro yn y gorffennol y dylai Cymdeithas y Cyfieithwyr gyfrannu
rhywbeth tebyg ar bwyntiau iaith diddorol. Dywedwyd wrthyf na wnai hyn ond
dyfnhau'r argraff mai rhyw eli^t snobyddlyd yw'r Gymdeithas. Dywedwyd
wrthyf sawl tro y byddai ymdrechion i wella iaith pobl yn golygu y bydden
nhw'n rhoi'r gorau i geisio siarad yr iaith ac yn troi i'r Saesneg.
Dywedwyd yr un peth wrthyf yn ddiweddar mewn cyfarfod o bwyllgor y papur bro
- os 'dych chi'n ceisio cael pobl i wella eu ffordd o weithio, bydd pawb yn
tynnu'n ol yn gyfan gwbl. 'Rwy'n cael llond bol ar hyn!! 'Rwy'n cael llond
bod ar boeni a ddylwn i lastwrieddio fy iaith fy hun wrth ddysgu er mwyn bod
yn gyson a gwerslyfrau eilradd. 'Rwy'n credu, o gael anogaeth, cefnogaeth a
gwybodaeth, mae ar bobl *eisiau* gwella eu hunain.
'Rwy'n mynd i dewi rwan - dros dro o leiaf. 'Rwy'n siwr bod gan lawer
ohonoch lawer yr hoffech ei ddweud, er bod rhai yn rhy brysur i'w roi ar
bapur, a rhai yn rhy swil i'w ddweud yn gyhoeddus. Efallai byddai'n fuddiol
trafod rhyw bethau fel hyn yn y nosweithiau y mae'r Gymdeithas wrthi'n eu
cynnal rwan?
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhys Osian
(AcadReg)
Sent: 10 November 2009 00:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Diolch Siân. Teg dweud falle bod fy neges gynta yn eitha amwys, ac a dweud y
gwir fe allwn i fynd ddwy ffordd gyda hyn (fel gyda llawer peth), er mai
mynd gyda'r hen ffordd fydde'n braf, wrth gwrs, ond i bawb fod yn yr un
llyfr gweddi, fel petai... A lle well i drafod ffyrdd o adfer hen dermau
na'r cy;ch termau?
Ond gobeithio nad oedd fy ail neges yn ormod o bregeth, ac mai
cyd-ddigwyddiad oedd y tawelwch llethol, bron, a'i dilynodd..! Tybed beth yw
barn pobl eraill?
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary on
behalf of Siân Roberts
Sent: Mon 11/9/2009 7:54 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Mary
Dw i'n meddwl eich bod wedi camddeall neges Osian.
Yn ôl a welaf i, dweud mae Osian bod y dywediadau hyn yn siwr o
ddiflannu cyn hir oni chânt eu dysgu yn yr ysgolion.
Cofion
Siân
On 9 Tach 2009, at 13:36, Mary Jones wrote:
> Osian
> Dydych chi ddim o ddifri, gobeithio! Onid priod-ddulliau sy'n
> gwneud un iaith yn wahanol i iaith arall? Os na, gwell ichi gael
> peiriannau yn eich ysgolion cynradd.
> Mary
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Rhys Osian (AcadReg)
> Sent: 09 November 2009 13:26
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ffydleman - brown envelope
>
> Pwynt diddorol arall Ann.
>
> O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan
> ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden
> nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y
> tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn
> cyfieithiad y dyddiau hyn...
>
> Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn
> gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn ty ni, ac yn
> yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas,
> brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd!
>
> Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed
> porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n
> meddwl!
>
> Osian
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Ann Corkett
> Sent: 09 November 2009 11:24
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ffydleman - brown envelope
>
> Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd"
> dylwn fod
> wedi'i ddweud, nid "amlen frown"!
> Ann
|