Mae tri cham oherwydd bod Pennaeth yr Ysgol yn cael gwahardd y plentyn
am hyn a hyn o ddiwrnodau'n olynol heb orfod cyfeirio'r mater at y
llywodraethwyr ond ar ol y cyfnod hwnnw mae'n rhaid i'r
llywodraethwyr, ac nid y Pennaeth, wneud y penderfyniad. Os yw plentyn
wedi cael ei wahardd am hyn a hyn o ddiwrnodau yn barod yn ystod y
tymor (neu flwyddyn) yna mae'n rhaid cyfeirio'r mater at y
llywodraethwyr iddyn nhw gymryd y penderfyniad, felly
Cam 1) Y pennaeth yn gwahardd y plentyn (am gyfnod penodol)
Cam 2) Y llywodraethwyr yn gwahardd y plentyn (am gyfnod penodol)
Cam 3) Y llywodraethwyr yn gwahardd y plentyn yn barhaol
Muiris
2009/11/3 Claire Richards <[log in to unmask]>:
> Hyd y gwelaf i, dyw'r geiriau "suspension" ac "expulsion" ddim yn cael eu
> defnyddio bellach. Dim ond "exclude/exclusion", naill ai "fixed-period
> exclusion" neu "permanent exclusion", sydd i'w gweld. Byddai hynny'n
> esbonio pam mae'r awdur yn defnyddio "eithrio" bob tro.
>
>
>
> Wedi dweud hynny, alla i ddim gweld pam mae'n sôn am dri cham, chwaith.
>
>
>
> Mae cylchlythyr gan y Cynulliad ar
> http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-e.pdf?lang=en
> (Saesneg) a
> http://wales.gov.uk/docrepos/40382/4038232/4038211/Circulars/exclusion-schools-prus-w.pdf?lang=cy
> (Cymraeg) os yw o unrhyw gymorth.
>
>
>
> Claire
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 03 November 2009 11:57
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio[Spam score: 8%][Scanned]
>
>
>
> Ond ni dyna fy mhroblem! 'Rwy'n cyfieithu O Gymraeg digon gwallus, ac mae
>
> arnaf eisiau gwybod beth yw enwau Saesneg cywir y tri cham y mae'r awdur
>
> gwreiddiol yn cyfeirio atynt fel "eithrio dros dro", "eithrio" ac "eithrio
> ffurfiol".
>
> Ydw i'n iawn mai "exclusion/suspension/expulsion (sy'n swnio braidd yn hen
>
> ffasiwn i mi)" sy'n iawn, ynteu ydy'r ddau gyntaf yn iawn, a chynnig Tim yn
>
> iawn ar gyfer yr olaf.
>
>
>
> Gyda llaw, alla i ddim edrych ar gynnig Tim yr eiliad yma rhag ofn imi
> golli'r
>
> neges hon yng nghanol ei sgwennu. Er gwaethaf newid f'aelodaeth o W-T-C i
>
> gyfeiriad e-bost arall, 'rwy'n dal i orfod codi'r negeseuon o'r archif, gan
> na
>
> chefais ddim y bore 'ma trwy'r e-bost ond neges Geraint - 'roeddwn i wedi
>
> dechrau meddwl bod pawb yn f'anwybyddu!
>
>
>
> Diolch i bawb am bob ateb!
>
>
>
> Ann
>
> On Tue, 3 Nov 2009 09:56:37 -0000, Gorwel Roberts
>
> <[log in to unmask]> wrote:
>
>
>
>>Tydi eithrio ddim yn gywir. Exempt yw eithrio nid exclude
>
>>
>
>>
>
>>
>
>> _____
>
>>
>
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann
>
> Corkett
>
>>Sent: 03 November 2009 09:54
>
>>To: [log in to unmask]
>
>>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Diolch, Geraint, mae hynny'n werth ei nodi. Ond ga i jyst gadarnhau'r hyn
>
>>mae arna i eisiau ei wybod - a ddylai'r awdur wedi defnyddio tri gair
>
>>gwahanol? Ai exclusion > suspension > expulsion yw'r drefn arferol ac a
>
>>ddylwn i ddefnyddio'r tri gair hwnnw i ddynodi'r tri cam, er i'r awdur
>
>>ddefnyddio "eithrio" bob tro? 'Rwy'n amau mai hyn sy'n wir, ond hoffwn gael
>
>>cadarnhad gan bobl sy'n ymwneud a maes addysg yn fwy cyson.
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Llawer o ddiolch,
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Ann
>
>>
>
>> _____
>
>>
>
>>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>
>>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
>
> Lovgreen
>
>>Sent: 02 November 2009 18:08
>
>>To: [log in to unmask]
>
>>Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>exclusion = eithrio
>
>>
>
>>suspension = atal
>
>>
>
>>expulsion = gwahardd/diarddel
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro.
>
>>
>
>>----- Original Message -----
>
>>
>
>>From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett
>
>>
>
>>To: [log in to unmask]
>
>>
>
>>Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM
>
>>
>
>>Subject: eithrio, eithrio ac eithrio
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol gynradd. Yn ol y rhain,
>
>>os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y
>
>>pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff
>
>>ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd arall, er iddi
>
>>ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son am "temporary exclusion",
>
>>wedyn "suspension" ac wedyn "expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad
>
>>swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at
>
>>"exclusion"?
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Diolch yn fawr iawn,
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>Ann
>
>>
>
>>
>
>>
>
>>
|