Ydy, mae, yr union bwnc!
Er bod Berwyn yn gweld Google Translate yn well o dipyn na'r holl wefannau Sgymraeg 'na, mae'n dangos yn glir mor beryglus fyddai dibynnu ar y system. Gyda nifer o welliannau sylweddo, fe allai system o'r fath fod yn offeryn defnyddiol i gyfieithwyr prysur. Gallai fod yn gyfrwng i weithio'n gyflymach ac yn fwy cyson. Ond, os darllenais i lith Berwyn yn gywir, does dim fersiwn gyfrifiadurol o'r cyfieithydd yn debygol o fod ar y gorwel am ... wel, pwy sy'n cyfri?
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 02 October 2009 14:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gwgl
>
> Llythyr difyr a hynod bwrpasol gan Berwyn ar Y Cymro heddiw.
Dwi ddim yn darllen Y Cymro fy hun, ond ydi e sgwn i yn son am y
defnydd posib o Google Translate i wneud cyfieithiadau cyflym heb
drafferthu talu am gyfieithydd proffesiynol?
Mae nifer o bobl ar Twitter wedi gwneud sylw am wefan swyddogol Y
Cymro (ai hynny oedd yn llythyr Berwyn?). Does dim cynnwys yno o gwbl,
a mae nhw'n cyfieithu y wefan yn awtomatig drwy Google!
http://www.y-cymro.com/
Mae'r Cymro yn berchen i ddyn busnes o Loegr ers blynyddoedd. Beth yw
pwynt y papur? A ddylen nhw newid yr enw i 'Y Sais'?
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|