> All rhywun sy'n gwybod mwy am y pwnc hwn na fi awgrymu sut i gyfieithu
> 'overexpressed'.
Dwi'n credu fod 'mynegiant genyn/genynnau' yn ymadrodd sy'n cael
ei ddefnyddio a'i dderbyn. Felly fasen i'n dychmygu fod 'gorfynegiant'
yn air addas, ond mi fyddai angen barn pellach.
Dim ond un enghraifft dwi'n gallu gweld o chwilio Google, ar hwn:
"Defnyddia grŵp ymchwil Dr Rosalind John drawsgenynnau BCA i astudio
canlyniadau gorfynegiant tri o’r genynnau hyn."
http://www.caerdydd.ac.uk/biosi/research/genetics/index.html
|