annes gruffydd wrote:
> Dwi wedi llwyddo i nadu i Cysill gywiro 'gwallau amlwg heb ofyn' - felly
> bellach dydi geiria tramor ee 'der' Almeaneg ddim yn cael eu 'cywiro'.
> Ond dwi wedi trio a thrio dileu'r tic gyferbyn a 'mae'r frawddeg hon yn
> rhy hir' ne beth bynnag ydi enw'r man ticio hwnnw. Does arna i ddim isio
> i Cysill ddeud hynny wrtha i - my musenes i ydi o (ne'r sawl sgwennodd y
> ddogfen) ac mae'n dan ar y nghroen i gorfod clicio 'anwybyddu' bob tro.
> Fedra i yn fy myw ddileu'r clic hwnnw er fy mod wedi trio droeon. Fi
> sy'n dwp mae'n siwr a faswn i'n falch o unrhyw gymorth.
>
Pa glic yw hwn Annes?
Ai'r un yn y ddewislen Dangos>Dewisiadau>Sillafu a Gramadeg 'Tynnu sylw
at frawddegau sy'n cynnwys [nifer] o eiriau? Os ydych chi'n clicio ar y
tic, mae'n diflannu, yna clicio ar 'Iawn' iddo gadw'r newid. Dydyn ni
erioed wedi derbyn adroddiad nad yw'r nodwedd hon yn gweithio'n iawn.
Ond os yw'r broblem yn dal, mae modd newid y cyfanswm geiriau sy'n
ymddangos yn y blwch bach, a'i gynyddu i faint na fyddai neb yn meddwl
ysgrifennu brawddeg mor hir (100, 200 gair?)
Os yw'r broblem yn dal, anfonwch neges drwy'r system 'anfon neges am
wall' er mwyn i ni edrych ymhellach arni, - felly hefyd unrhyw aelodau
eraill o'r cylch sy'n cael trafferthion gyda'r rhaglen
Delyth
> Annes
>
> 2009/10/21 Huw Roberts <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Tra bo Cysill dan yr ordd, dw i'n darganfod weithiau fod rhai
> "cywiriadau" yn digwydd yn ddigymell hyd yn oed ar ôl i mi sicrhau
> nad oes tic gen i'n gofyn i'r rhaglen "Gywiro gwallau amlwg heb ofyn".
>
> Felly yr unig ffordd ddiogel o ddefnyddio Cysill, hyd y gwelaf, ydy
> gwneud copi o'r ddogfen sydd i'w gwirio a rhedeg Cysill ar honno,
> gan nodi pob cywiriad angenrheidiol ar bapur sgrap. Wedyn dychwelyd
> at y ddogfen wreiddiol a "chwilio" am bob un yn ei dro. Llafurus
> ond saffach.
>
> Huw
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Gwenllian Mair Williams <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Wednesday, October 21, 2009 11:57 AM
> *Subject:* Re: Problem troednodiadau Cysill
>
> Mi gefais i'r un broblem wythnos dwytha a gorfod ail-osod dros
> 80 o droednodiadau!
> Niwsans pur.
>
> Oes na ateb i'r broblem, heblaw am fynd drwy ddogfen dudalen ar
> y tro?
>
> Gwenllian
>
> --- On *Wed, 21/10/09, Sioned Graham-Cameron /<[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>/* wrote:
>
>
> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Subject: Re: Problem troednodiadau Cysill
> To: [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> Date: Wednesday, 21 October, 2009, 11:21 AM
>
> Do, wedi cael yr un broblem pan 'roeddwn yn defnyddio Cysill
> (cyn symud i beiriant Mac).
>
> O gofio, roedd hefyd yn torri hyperddolenni, a rhaid oedd
> ceisio cofio peidio â'u cynnwys wrth roddi'r ddogfen trwy
> Cysill.
>
>
> Sioned
> On 21 Oct 2009, at 11:17, Rhian Jones wrote:
>
>> Ar ôl i mi ddefnyddio Cysill i wirio dogfen mae rhai
>> troednodiadau'n diflannu. Oes yna rywun arall yn cael y
>> broblem yma?
>> Rhian
>
> =
>
>
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|