Cwpl bach o enghreifftiau o'r Eirfa Gronnus:
Mae'n cynrychioli'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio ar y cyd a sut y gellir achub adeiladau sy'n ymddangos yn adfeiliedig rhag cael eu dymchwel drwy ymagwedd sensitif a chyd-deimladwy.= It represents what can be achieved through partnership working and how seemingly derelict buildings can be saved from demolition by a sensitive and sympathetic approach.
Mae’r rhain yn cynnwys : - sbwriel yn casglu mewn gerddi, ar dir ac mewn alïau; llygod mawr o adeiladau cyfagos; adeiladau bawaidd a phryfedog; adeiladau gwag ac adfeiliedig; niwsans o gadw anifeiliaid/adar; niwsans oherwydd gwynt drwg; niwsans gyda s?n a dirgrynu. = These include: accumulations of rubbish in gardens, on land and in alleyways; rats from neighbouring premises; filthy and verminous premises; vacant and derelict buildings; nuisance from keeping animals/birds; odour nuisance; noise and vibration nuisance.
annog adennill tir diffaith o fewn y sir = encourage the reclamation of derelict land within the county
ardaloedd diffaith = areas of dereliction
Bydd y sgwâr cyhoeddus mwyaf, fydd yn ganolbwynt y datblygiad, yn Clarence Place, o flaen yr hen Goleg Celf. = The largest public square, providing a focal point for the development, will be at Clarence Place, fronting the derelict Art College.
Darganfuwyd tystiolaeth o draddodiad toi lleol iawn yn yr Hen Siop, Treteio: er i'r adeilad fynd â'i ben iddo, roedd cofnodion cynharach wedi nodi ei adeiladwaith brodorol. = Evidence for a very local roofing tradition was discovered at Yr Hen Siop, Tretio: although the building had become derelict, earlier recording had documented its vernacular construction.
Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Tir Diffaith) 2004 = The Welsh Development Agency (Derelict Land) Order 2004
gwarchod rhag cynlluniau ail-ddatblygu ac adfer tir diffaith = protect from redevelopment and derelict land reclamation schemes
osgoi dymchwel sbwriel megis hen gerbydau a chyfarpar domestig nas defnyddir mwyach = avoid dumping rubbish such as derelict vehicles and disused domestic appliances
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Emily Williams
Sent: 20 October 2009 14:17
To: [log in to unmask]
Subject: Derelict building
Helo bawb
Rwy'n chwilio am gyfieithiad ar gyfer y term uchod. Gweler y disgrifiad ar
waelod y neges.
Dyw 'adeilad gwag' ddim yn dweud digon (mae'n rhaid gwahaniaethu
rhwng 'vacant' a 'derelict') ac rwy'n credu bod dweud 'adeilad adfeiliedig' yn
rhy gryf o bosibl (hynny yw, nid 'ruin' yw e)...
Byddai 'adeilad anghyfannedd' yn anhgyfarwydd i lawer iawn o bobl.
Cafodd 'adeilad segur' ei awgrymu ond o edrych ar Google rwy'n meddwl mai
am 'unused building' y defnyddir y term hwnnw. Dyma rai cynigion posibl:
adeilad wedi'i esgeuluso
adeilad gwag wedi'i dirywio
adeilad gwag dirywiedig
adeilad anghyfannedd wedi'i dirywio
Dyma ddiffiniad:
A derelict building is an empty building which shows no signs that it is being
converted or renovated. It may not always be easy to tell the difference
between a derelict and vacant property. The deciding fact is whether the
property is suitable for anyone to live in.
If any of the floors, staircase, entrance doors or roof are partly or completely
missing the property is probably derelict.
A property that has been boarded up to prevent vandalism or occupation by
squatters is considered to be vacant, and not derelict.
Diolch yn fawr
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
|