Ww licio hwnna - parti pyjamas amdani dwi'n meddwl
Diolch yn fawr
Catrin
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Tegid
Sent: 01 October 2009 13:32
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB/RE: sleepover
Yn sgil yr hyn a ddywedodd Beryl, beth am osgoi'r syniad o 'gysgu' a dewis rhywbeth fel 'parti pyjamas'?
Mae'r sgwrs ar y ddolen isod fel petai'n awgrymu fod 'sleepover' a 'pyjama party' yr un peth, ac yn cadarnhau barn Catrin ei fod yn fwy o achlusur na dim ond cwpwl o ffrindiau'n aros dros nos.
http://in.answers.yahoo.com/question/index?qid=20060915213527AAO6x5y
Cofion gorau,
Huw
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Beryl H Griffiths
Anfonwyd/Sent: 01 October 2009 12:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ATB/RE: sleepover
Plîs na - mae cysgu drosodd yn hollol ddiystyr yn Gymraeg - 'dros' be felly?
Mae'n debyg mai am ei fod yn rhywbeth cyffrous a gwahanol y mae'r enw Saesneg wedi cydio yn anffodus. Beryg y bydde'n rhaid bathu rhywbeth hollol newydd - nid y cysgu sy'n bwysig wrth gwrs ond y ffaith bod 'na haid o ffrindie yn peidio cysgu hefo'i gilydd!
Beryl
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 01 October 2009 12:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: sleepover
Ond mae sleepover yn fwy na jest mynd i aros yn nhy rhywun - mae'n achlysur pwysig, neu mi oedd o'n arfer bod yn ein ty ni beth bynnag. I fy mhlant i, byddai 'Dwi'n cael sleepover nos Sadwrn' yn swnio'n llawer mwy cyffrous na 'Mae cwpwl o ffrindie'n dod draw i aros nos Sadwrn'.
Tybed fyddai 'Cysgu Cŵl'ynddo'i hun yn ddigon? Trueni am y rheol aur bod rhywbeth yn peidio a bod yn cŵl yr eiliad mae'n cael ei alw'n cŵl wrth gwrs.
Efallai mai 'Cysgu Drosodd' neu rywbeth cyffelyb fydd raid iddo fod.
Diolch i chi
Catrin
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of SIAN ROBERTS
Sent: 01 October 2009 12:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: sleepover
Dw i ddim yn siwr a oes modd neud hyn.
Dw i wedi clywed pethau fel "Geith Catrin gysgu drosodd yn tŷ ni?" !!!
Beth oedd pobl yn wneud cyn dyfodiad "sleepover"?
Mynd i aros yn nhŷ Catrin?
--- On Thu, 1/10/09, Catrin Beard <[log in to unmask]> wrote:
> From: Catrin Beard <[log in to unmask]>
> Subject: sleepover
> To: [log in to unmask]
> Date: Thursday, 1 October, 2009, 11:41 AM
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
>
> Oes
> gan rywun air/dywediad
> bachog am sleepover - h.y. pan fydd plant yn aros draw yn nhai ei
> gilydd?
>
> (stayawakeover oedden ni'n
> arfer ei ddweud)
>
>
>
> Diolch am unrhyw gynigion
>
> Catrin
>
>
>
>
>
>
>
|