Ie efallai, ond dwi'n dal i fod angen ansoddair.
Be am 'high-end jobs'? Fedra'i ddim dweud "swyddi sy'n cynhyrchu nwyddau
soffistigedig iawn" bob tro.
A dwi ddim yn hoff o "soffistigedig" yn y cyd-destun yma chwaith. Fyswn i
byth yn deud fod iPod, er enghraifft, yn declyn 'soffistigedig'. Pobl sy'n
soffistigedig, ac mae'r gair yn tarddu o ystyr wreiddiol reit ddifriol os
ydw i'n cofio'n iawn!
A beth am 'manufacturing at the high-end"? "Gweithgynhyrchu ar y lefel
uchaf" ydi fy gnhynnig ar hyn o bryd.
----- Original Message -----
From: "Carolyn" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 15, 2009 1:24 PM
Subject: ATB: High-end
> Dw i'n gwybod mai cyfeirio at y 'gweithgynhyrchu' y mae o ond o edrych ar
> y
> ffordd mae'n cael ei ddefnyddio ar y we - mae o bob tro'n cyfeirio at
> weithgynhyrchu nwyddau 'high-end' e.e.
>
> U.S. companies have shifted toward high-end manufacturing as the
> production
> of low-value goods moves overseas. That has resulted in lower prices for
> shoppers and higher profits for companies - dw i'n tueddu i feddwl mai
> 'manufacturing of high-end goods' yw'r ystyr.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
> Lovgreen
> Anfonwyd/Sent: 15 Hydref 2009 13:05
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: High-end
>
> Na, y gweithgynhyrchu sy'n 'high-end' - mae na hefyd swyddi 'high-end'.
>
> Ar hyn o bryd dwi'n defnyddio 'uwchradd' - gweithgynhyrchu uwchradd,
> swyddi
> uwchradd...
>
> Os nad oes gan rywun wrthwynebiad, a chynnig gwell!
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Claire Richards" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, October 15, 2009 12:53 PM
> Subject: Re: High-end
>
>
>> Ond ai'r gweithgynhyrchu sy'n 'high-end', ynteu'r nwyddau a gynhyrchir?
>>
>> Gweithgynhyrchu nwyddau soffistigedig (iawn)?
>>
>> Claire
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
>> Lovgreen
>> Sent: 15 October 2009 12:49
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: High-end
>>
>> beth am "high-end manufacturing".
>>
>> Byddai dweud "gweithgynhyrchu o safon uwch" yn awgrymu nad yw safon pob
>> gweithgynhyrchu arall gystal.
>>
>
|