"offer prawffddarllen" - da rwan, yn amlwg mae'r angen yn bodoli !
----- Original Message -----
From: "D.Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 02, 2009 9:08 AM
Subject: ysgoloriaeth meistr ar gael
Annwyl gylch,
Mae yma gyfle ardderchog i rywun sydd â diddordeb mewn gramadeg ac offer
prawffdarllen Cymraeg i gael ysgoloriaeth blwyddyn gyda ni yma yn Uned
Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
Rwy'n copio'r manylion yn llawn isod,
Delyth
Ysgoloriaeth: Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg
Gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg
Telir ysgoloriaeth blwyddyn o £9K ynghyd â’r ffioedd cofrestru a
chyllideb deithio a datblygu hael i’r myfyriwr llwyddiannus.
Ar gael i ddechrau arni cyn gynted ag y bo modd.
Ysgoloriaeth MRes
Teitl: “Astudiaeth o wallau cyffredin Cymraeg yng nghorpws Cysill
ar-lein a goblygiadau hynny o ran creu offer prawfddarllen i’r diwydiant
cyfieithu”
Cefndir: Seilir y project hwn ar gorpws newydd sy’n cael ei gasglu o
destunau Cymraeg gwallus yn deillio o’r fersiwn ar-lein o Cysill
(meddalwedd gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg). Bydd y project yn
dadansoddi’r corpws o ran natur a mynychder y gwallau gramadegol.
Edrychir yn benodol ar nodweddion sy’n dangos ôl y Saesneg ar y Gymraeg.
Defnyddir y canfyddiadau hynny wrth lunio argymhellion i wella rheolau
gramadeg Cysill a chreu offer prawfddarllen penodol i gyfieithwyr eu
defnyddio i wella’u cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant
Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru fel
partner allanol y project.
Goruchwylwyr Academaidd:
Y goruchwylwyr fydd Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan
Bedwyr, a’r Athro Margaret Deuchar o’r Ysgol Ieithyddiaeth a’r Ganolfan
Dwyieithrwydd.
Bydd y myfyriwr yn gweithio yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a
bydd yn cofrestru yn Ysgol Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, at ddibenion
datblygiad academaidd ac arholi.
Cymwysterau angenrheidiol:
Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd dosbarth cyntaf neu ail uchaf mewn pwnc
perthnasol (ieithyddiaeth, Cymraeg neu iaith fodern arall etc). Gorau
oll os gallant ddangos prawf o ddiddordeb blaenorol yn y maes, er
enghraifft project ymchwil perthnasol fel rhan o gwrs gradd.
Rhaid i fyfyrwyr sydd am fanteisio ar y cynllun hwn fod yn byw o fewn yr
ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru pan gânt eu cofrestru a rhaid iddynt fod
yn gymwys i dderbyn gwaith cyflogedig yn yr ardal Cydgyfeiriant yng
Nghymru ar ddiwedd yr ysgoloriaeth.
I wneud cais:
Os hoffech ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon danfonwch y canlynol at
Delyth Prys erbyn 9 Hydref 2009 fan bellaf.
1. ffurflen gais KESS (sydd ar gael o wefan Prifysgol Bangor) i gynnwys
Datganiad Personol (100 - 500 gair) am eich diddordebau a’ch sgiliau
ymchwil perthnasol (rhestrwch eich holl sgiliau perthnasol, e.e. sgiliau
cyfrifiadurol, profiad perthnasol, teitl a disgrifiad byr o brojectau
ymchwil y buoch yn rhan ohonynt, etc).
2. Enwau a manylion cyswllt dau ganolwr a all roi sylwadau ar eich
addasrwydd i ymgymryd â rhaglen ymchwil ôl-raddedig.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau e-bost yw 9 Hydref 2009. Dylech
yrru copi caled wedi’i lofnodi hefyd at:
Delyth Prys
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2PZ
Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Delyth Prys; ffôn: +44 1248
382800; e-bost [log in to unmask]
Dyddiad cau i geisiadau: 9 Hydref 2009
Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|