Beth yw'r cyflwyniad? Beth yw'r darn o waith sydd gennych? Taflen hysbysebu?
Adolygiad? Pam yn y byd mae angen cyfieithu'r teitl? Fydd y sioe yn
ddwyieithog?
Ydy hyn yn achos o gwmni Cymraeg sydd wedi digwydd meddwl am deitl Saesneg,
ond sy'n chwilio am deitl Cymraeg ar gyfer cynhyrchiad Cymraeg - os felly,
pam mae rhaid iddynt droi at y Saesneg yn gyntaf ar gyfer ysbrydoliaeth?!
Yn hytrach na *chyfieithu* yr ymadrodd, efallai byddai rhyw ymadrodd
gwahanol yr un mor addas, neu efallai'ch bod chi'n iawn ac ni ddylid
cyfieithu'r teitl o gwbl, ond heb wybod rhagor am y sioe mae'n amhosibl
gwybod.
Mae angen cymaint o gyd-destun ag y bo modd gydag unrhyw ymholiad ynghylch
term neu ymadrodd.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 19 September 2009 21:45
To: [log in to unmask]
Subject: there's no business like show business
Tybed oes rhywun wedi cael achos i gyfieithu- There's no business like show
business.
Teitl i gyflwyniad mewn theatr ydyw. Efallai y dylwn gadw'r peth yn Saesneg
Diolch am unrhyw awgrym
Garry
|