Ah, y 'sir Fon' oeddech chi'n gofyn amdano, nid a yw'r gerdd yn
ogleddol.
--Mark
annes gruffydd wrote:
> Sori, dwi'm yn dallt - mae pawb ohonan ni'n gwbod yn iawn mai gair
> gogleddol ydi hidia/hitia ac mai gair Sir Fon ydi ffunen - pam bod yma
> ryw amheuaeth mai gair gogleddol ydi hidio??????
>
> Annes
>
> 2009/9/23 Mark Nodine <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Am ryw rheswm, mi ges i'r argraff bod 'hidio' yn air gogleddol.
> On'd ydy hynny'n wir?
>
> --Mark
>
>
> Catrin Beard wrote:
>
> Dwi wedi cael cais i gyfieithu cerdd gan filwr yn y Rhyfel Byd
> Cyntaf a anfonwyd i'w gariad, a'r teitl, sydd hefyd yn ffurfio
> llinell olaf pob pennill yw 'Hitia Mo'no, mo'no fi'
>
> Wn i ddim o ble'r oedd y milwr yn dod, ond mae cyfeiriad at
> 'ffunen' - 'Sych y deigryn hefo’r ffunen / Roddais am dy wddw
> gwyn' felly gogleddol (sir Fon?) fyddwn i'n tybio. O chwilio ar
> y we, mae gan Tony ac Aloma (sir Fon eto) gan o'r enw 'Hitia
> Mono Fi'.
>
>
> Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu? Ai
> 'anghofia amdanaf i' neu 'paid a phoeni amdanaf i'?
>
>
> Dyma'r pennill cyntaf:
>
>
> Anwyl eneth, paid a wylo
>
> Os wyf fi yn mynd i ffwrdd
>
> Fe ddaw rhywun arall heibio
>
> I dy garu a dy gwrdd
>
> Ifanc oeddwn a difeddwl
>
> Pan yn rhodio gyda thi
>
> Os yn gariad wedi’i cwbl
>
> Hitia mo’no mo’no fi
>
>
> Diolch am unrhyw gymorth
>
> Catrin
>
>
>
>
>
|