Mae'n well gen i fysell sgrin Dafydd ond hyd y gwela'i wrth edrych drwy
ddiffiniadau mae soft key yn gallu golygu dau beth gwahanol -
1) Bysell ar y sgrin sy'n cyflawni un math o weithred
2) Bysell ar fysellfwrdd/ffôn sy'n gallu cyflawni sawl gweithred wahanol
(dyma'r amlraglenadwy sydd gen ti, mae'n debyg ia?)
Felly, mae'n dibynnu pa un o'r rhain sydd dan sylw.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Lewis
Anfonwyd/Sent: 26 Awst 2009 00:40
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: softkey
Fyddai 'bysell amlraglenadwy' yn dderbyniol am 'softkey'? Neu 'bysell
sgrîn'?
('Touches afficheur' yn Ffrangeg).
Dafydd
|